Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru yn ymweld â Technocamps

adminNewyddion

Roedd Technocamps yn falch o groesawu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS i'w swyddfa ym Mhrifysgol Abertawe i ddysgu mwy am y prosiect a'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Nghymru gyda'i bartner y Sefydliad Codio..

Yng nghwmni Cyfarwyddwr Technocamps yr Athro Faron Moller, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe yr Athro Paul Boyle a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe dros Addysg yr Athro Martin Stringer, cafodd y Gweinidog daith o amgylch y Gofod Allgymorth CoSMOS i gwrdd ag aelodau allweddol o'r tîm ac academyddion eraill.

Roedd y Gweinidog yn gallu gweld drosto’i hun y gwaith y mae’r prosiect yn ei wneud, yn cyflwyno gweithdai STEM i bobl ifanc ledled Cymru. Roedd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Gymraeg Castell-nedd ar y campws i fwynhau ein gweithdy Butterfly Hunter - mewn cydweithrediad â Theatr na nÓg. Mae’r gweithdy’n manteisio ar ethos y Cwricwlwm newydd i Gymru, gan gwmpasu dysgu peiriant, ystadegau, rhaglennu a DNA gan ddefnyddio stori’r naturiaethwr Cymreig Alfred Russell Wallace fel ysgogiad.

Dywedodd yr Athro Faron Moller, “Roedd hwn yn gyfle gwych i arddangos y gwaith rydym yn ei wneud i uwchsgilio pobl ifanc yng Nghymru mewn ffordd hwyliog a deniadol. Rydym wedi cynnal dros 30,000 o weithdai i fwy na 65,000 o ddisgyblion hyd yma ac roedd yn anrhydedd dangos i’r gweinidog ein cynlluniau i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ar draws y wlad.”