Chwilio am siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i helpu gyda chlwb codio lleol

adminNewyddion

Siarad Cymraeg? Chwilio am rôl wirfoddoli?

Mae Technocamps a Menter Iaith Caerdydd yn chwilio am siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i gefnogi clwb codio dwyieithog bore Sadwrn yn yr ATRiuM yng Nghaerdydd ar gyfer plant oed cynradd (8-11 oed).

Bydd arweinwyr y clwb codio yn derbyn £10 yr awr, yn ogystal â lluniaeth a hyfforddiant meddalwedd. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am godio, ond dylech fod yn hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiaduron (bydd Scratch a Lego Robotics yn cael eu defnyddio).

BLE?
ATRiuM USW , Cardiff

PRYD?
Sesiwn Hyfforddi gyda Technocamps
22 Hydref | 9.30am-12pm

Sesiwn Flas
29 Hydref | 9.30am-12pm

Clybiau Codio Dydd Sadwrn
12 Tachwedd – 17 Rhagfyr | 9.30am-12pm