Datblygu sgiliau'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiber ddiogelwch

adminNewyddion

Rydyn ni'n gweithio gyda Phrifysgol De Cymru ar brosiect cenedlaethol i ddatblygu sgiliau cenhedlaeth nesaf Cymru o arbenigwyr seiberddiogelwch.

Mae ein hyb Technocamps ym Mhrifysgol De Cymru, sy’n bartner safon Aur y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ac sydd wedi ennill ‘Prifysgol Seiber y Flwyddyn’ am bedair yn olynol, yn arwain rhaglen Ysgolion a Cholegau CyberFirst yng Nghymru, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Bangor ac Abertawe.

Cefnogir y rhaglen hefyd gan y Ganolfan Ecsbloitio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) yng Nglynebwy, a gafodd ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Prifysgol De Cymru, a’r cwmni technoleg Thales.

Mae CyberFirst yn rhaglen a grëwyd gan yr NCSC i helpu pobl ifanc i archwilio eu brdfrydedd am dechnoleg trwy eu cyflwyno i fyd cyflym seiberddiogelwch.

Fel rhan o hyn, bydd gwobr ysgolion a cholegau CyberFirst yn cymeradwyo’r rhai sydd wedi dangos dull rhagorol o ymdrin ag addysg seiber a chyfrifiadura. Yng Nghymru, ar ôl ennill y wobr, mae’r ysgolion a’r colegau wedi’u partneru â busnes seiber neu dechnoleg i weithio ar ‘fframwaith ymgysylltu’ ar thema seiber a gynlluniwyd i gefnogi’r ysgol neu’r coleg i gyflawni ei strategaeth addysg seiber a chyfrifiadura.

Dywedodd Sharan Johnstone, sy’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd ym Mhrifysgol De Cymru, Pennaeth Pwnc y Brifysgol ar gyfer Seiberddiogelwch a Fforensig Digidol, ac a gafodd ei henwi’n Fenyw’r Flwyddyn STEM Cymru yr hydref diwethaf: “Mae’n arwain y prosiect hwn yng Nghymru. cyfle gwych i Brifysgol De Cymru, ac mae’n dangos sut mae’r prif chwaraewyr yn y diwydiant yn cydnabod ein rhagoriaeth ac yn ymddiried ynom i addysgu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch.

“Rydyn ni'n gyffrous iawn i allu cefnogi CyberFirst a helpu Cymru i wella ei henw da ymhellach fel arweinydd byd yn y diwydiant hanfodol hwn.”

Astudiaethau achos

Dywedodd Rhys Driscoll, Arweinydd Digidol Ysgol Uwchradd Gatholig St Joseph yng Nghasnewydd, sy’n ysgol Arian CyberFirst: “Mae ein hysgol wedi elwa’n fawr o’r cynllun CyberFirst, sydd wedi ein galluogi i addysgu cynulleidfa ehangach am bwysigrwydd seiberddiogelwch.

“Trwy’r cynllun, mae ein myfyrwyr wedi cael cyfleoedd a phrofiadau amrywiol sydd wedi eu herio a’u hysbrydoli, gan wella eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad digidol, gyda ffocws ar ddatrys problemau a heriau seiber. Rydyn ni hefyd wedi gallu ymestyn ein hallgymorth i’r gymuned ehangach, gan gefnogi eu hymgysylltiad cadarnhaol ag addysg seiber.

“Gyda’n partneriaeth ag Airbus, rydyn ni wrth ein bodd yn dod â phrofiad ac arbenigedd byd go iawn i’n hystafelloedd dosbarth, gan gyfrannu ymhellach at ddatblygiad gweithwyr proffesiynol medrus yn y diwydiant.

“Fel ysgol CyberFirst, rydyn ni'n awyddus i barhau i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo addysg a sgiliau seiber ledled Cymru, gan annog sefydliadau eraill i ymuno â’r fenter hon. Mae ein hymdrechion yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer poblogaeth ddigidol gymwys a seiber-ymwybodol, ac rydyn ni'n falch o fod yn rhan o’r ymdrech hanfodol hon.” 

Dywedodd Chloe Seaton, Uwch Gydymaith yn PWC, sy’n partneru ag Ysgol Uwchradd Caerdydd fel rhan o’r cynllun: “Rwy’n hynod gyffrous i fod yn bartner gyda Cyber First ac Ysgol Uwchradd Caerdydd i rannu pwysigrwydd ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch ac i ddangos i fyfyrwyr ifanc y gallwch ddod o unrhyw gefndir gydag amrywiaeth o sgiliau a chael eich croesawu i’r diwydiant seibr.”