Rydyn ni wedi lansio BBC micro:bit - arolwg iard chwarae!

Rasa MombeiniNewyddion

two girls examining leaf

Rydyn ni wedi lansio BBC micro:bit - arolwg iard chwarae!

Gall athrawon a disgyblion ysgolion cynradd ar hyd a lled y DU barhau â’u hanturiaethau gyda’r micro:bit drwy gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous, sef BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.Dyma brosiect perffaith i ddisgyblion 7-11 oed yn ystod tymor yr haf a fydd yn rhoi cyfle i’r plant ddysgu am amgylchedd eu hiard chwarae drwy gyfres o weithgareddau difyr, hwyliog a thrawsgwricwlaidd.

Drwy gymryd rhan yn arolwg mawr y BBC o iardiau chwarae ysgolion, mae gan blant gyfle unigryw i fynd i’r afael â data mewn ffordd ymarferol a chreadigol sy’n berthnasol i’w bywydau bob dydd.

I ddysgu am yr arolwg iard chwarae a sut mae dechrau arni gyda’ch dosbarth, ewch i wefan BBC micro:bit - arolwg iard chwarae, lle mae'r Canllaw i athrawon a’r saith gweithgaredd.

Mae yna fideos (Saesneg) hefyd sy’n cael eu cyflwyno gan Big Manny, Shereen Cutkelvin, Tilly Lockey ac Yussef Rafik yn egluro pob gweithgaredd a’r hyn gallwch chi ddisgwyl ei ddysgu ar hyd y ffordd.

Cyflwynwch ddata eich ysgol drwy’r adnodd uwchlwytho data’r arolwg erbyn 5pm ddydd Mercher 31ain Gorffennaf 2024 a byddwch chi’n cael cyfle cyffrous i gyfrannu at y canlyniadau cenedlaethol a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn ystod tymor yr hydref 2024. I gael gwybod rhagor, ewch i bbc.co.uk/microbit.