Case Study: Volcano Theatre

Paige JenningsAstudiaeth Achos Gweithdai a Digwyddiadau

Dywedwch ychydig wrthym am eich sefydliad.

Mae Volcano Theatre yn gwmni theatr annibynnol a chanolfan celfyddydau cymunedol wedi’i leoli yng nghanol dinas Abertawe. Yn ogystal â dyfeisio a pherfformio theatr wreiddiol yma yn Abertawe ac yn fyd-eang, rydym yn cynnal rhaglen o gyfleoedd creadigol yn rhad ac am ddim i’n cymuned leol.

Sut wnaethoch ddechrau cyd-weithio gyda Technocamps?

Daeth Technocamps atom gyda’r cynnig o gydweithio i ddarparu gweithdai i’r gymuned yn ein lleoliad. Roedd hwn yn gyfle cyffrous i ni allu cynnig rhywbeth newydd i’n cymuned bresennol ac i wahodd pobl newydd i’r lleoliad.

Pa ran o'r gwaith gyda Technocamps sydd wedi bod fwyaf buddiol i'ch sefydliad, a pham?

Mae gweithio gyda Technocamps wedi dod â phobl newydd i Volcano ac wedi ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. 

Sut ydych chi'n meddwl bod y sgiliau a'r wybodaeth a ddarparwyd gan Technocamps wedi bod o fudd i'ch sefydliad?

Roedd gan rai o'n staff ddiddordeb ym mhynciau'r gweithdai ac roeddent yn gallu mynychu yn ogystal â buddiolwyr presennol. Mae gweithio gyda Technocamps yn caniatáu i ni arallgyfeirio ein harlwy ac rydym yn gobeithio parhau â'r berthynas.

A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?

Mae gweithio gyda Technocamps wedi bod yn broses esmwyth. Mae cyfathrebu wedi bod yn hawdd ac mae staff wedi bod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar ac yn brydlon. Roedd gan y gweithdai gyrhaeddiad ehangach o’u marchnata’n uniongyrchol gan Technocamps ac mae hyn yn rhywbeth i’w gadw mewn cof ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.