Roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i gynnal gweithdy yn nigwyddiad ysbrydoledig Girls on Track y llynedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cymerodd y dysgwyr ran mewn diwrnod llawn gweithdai difyr, ymarferol a gyflwynodd iddynt y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol sydd ar gael ym myd chwaraeon moduro!
đ Gallwch wylio'r fideo i weld yr uchafbwyntiau a chlywed gan rai o'r dysgwyr anhygoel!
Mae rhaglen Girls on Track yn fenter ar y cyd rhwng yr FIA a Motorsport UK. Gan uno menter âDare to be Differentâ Susie Wolff (a sefydlwyd yn 2016) â rhaglen âGirls on Trackâ yr FIA (a sefydlwyd yn 2019), mae Motorsport UK wedi ymuno ââr FIA yn y prosiect newydd hwn, âGirls on Track UKâ.
Mae Girls on Track yn cynnal digwyddiadau ar draws y DU i ysbrydoli merched a menywod i weld a chredu bod lle haeddiannol a gwerthfawr iddynt yn y diwydiant chwaraeon moduro. Mae'r ystod amrywiol o gyfleoedd o fewn chwaraeon moduro yn golygu bod rhywbeth at ddant pawb, waeth beth fo'ch diddordebau, rhyw a hil.