Astudiaeth Achos: Lara Duke

Paige JenningsAstudiaeth Achos, Astudiaeth Achos Gweithdai a Digwyddiadau

Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch gwaith.

Rwy'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe fel Swyddog Asesu a Dyfarniadau. Mae fy rôl yn benodol yn cynnwys monitro, goruchwylio a darparu arweiniad ar uniondeb academaidd a chamymddwyn academaidd, gan gynnwys gweithdrefnau, prosesau a hyfforddiant.

Sut wnaethoch ddechrau cyd-weithio gyda Technocamps?

Gwelais y cyrsiau'n cael eu hysbysebu ar ffrwd Yammer Prifysgol Abertawe.

Pa ran o'r gwaith gyda Technocamps sydd wedi bod fwyaf buddiol i chi, a pham?

Rwyf wedi cwblhau'r cyrsiau Excel a GenAI—mae'r ddau wedi bod yn rhagorol ac yn addysgiadol iawn. Rwy'n teimlo'n fwy hyderus a byddaf yn gallu ymgorffori llawer o'r hyn rwyf wedi'i ddysgu yn fy ngwaith a'm bywyd personol.

Sut ydych chi'n meddwl bod y sgiliau a'r wybodaeth a ddarperir gan Technocamps yn cael eu defnyddio yn eich gwaith o ddydd i ddydd?

Rwy'n defnyddio Excel yn rheolaidd i gasglu data a chynhyrchu adroddiadau ac ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth. Rwyf wedi dysgu rhai technegau gwych i wneud hyn yn fwy effeithlon a dibynadwy. O ran GenAI, mae gennyf ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae'n gweithio ac rwy'n teimlo'n fwy hyderus yn ei ddefnyddio ar gyfer fy ngwaith ac, yn benodol, yn deall sut mae myfyrwyr yn ei ddefnyddio a sut y dylai'r Brifysgol ymateb orau i hyn o ran uniondeb academaidd a chamymddwyn.

A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?

Byddwn i'n ychwanegu bod y cyflwyniad o'r ddau gwrs yn rhagorol – yn ddiddorol ac yn gefnogol iawn. Byddaf yn sicr o chwilio am unrhyw gyrsiau byr eraill o'r math hwn gan eu bod yn cynnig cyfle gwirioneddol i ennill sgiliau defnyddiol iawn ac angenrheidiol iawn. Diolch yn fawr iawn!