Technocamps yn Cynnal Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol Olaf i Addysgwyr yng Nghymru

Paige JenningsNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau, Professional Learning

Y mis diwethaf, mynychodd ymarferwyr ac addysgwyr o bob cwr o Gymru ein Digwyddiadau Dysgu Proffesiynol a gynhaliwyd ym Mhencadlys Technocamps a Neuadd Fusnes Sgeti. Darparodd y digwyddiadau hyn adnoddau ymarferol, dwyieithog i ymarferwyr ac addysgwyr, wedi'u halinio â Chwricwlwm Cymru.

Sesiwn addysgiadol, ddiddorol gyda phrofiadau ymarferol ac enghreifftiau o ddysgu y gallwn eu defnyddio.
– Ymarferydd Ysgol Gynradd

Yn ein sesiynau Cynradd, archwiliodd ymarferwyr nodweddion gwych micro:bit y BBC a sut y gallant greu profiadau dysgu trawsgwricwlaidd deniadol trwy weithgareddau ymarferol. Datblygodd ymarferwyr uwchradd eu sgiliau mewn rhaglennu Python a dylunio GUI gyda Tkinter, gan ennill gwybodaeth hanfodol i gefnogi cwricwlwm Cyfrifiadureg TGAU newydd yng Nghymru.

Heb Technocamps, fyddwn i ddim yn gallu cadw i fyny â'r sgiliau codio sydd eu hangen arnaf i ddysgu'r disgyblion. – Ymarferydd Ysgol Uwchradd

Gadawodd y mynychwyr gydag adnoddau parod i'w defnyddio, syniadau ffres, ac ysbrydoliaeth ar gyfer ymgorffori technoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r digwyddiadau hyn wrth wraidd yr hyn a wnawn ac maent yn hanfodol wrth arfogi athrawon â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ragori wrth addysgu'r cwricwlwm. Yn anffodus, oherwydd penderfyniadau ariannu diweddar, dyma'r gyfres olaf o'n digwyddiadau ymarferwyr blynyddol am y dyfodol rhagweladwy. Mae ein Noddwr, Beti Williams, wedi rhannu mwy o fanylion am y newidiadau ariannu.

Sesiwn Dysgu Proffesiynol hynod addysgiadol ac angenrheidiol iawn i gynorthwyo gyda chyflwyno'r cwrs newydd.  
– Ymarferydd Ysgol Uwchradd