English

Plant Ysgol Gynradd Hendrefoelan yn Dysgu i Godio

Cyhoeddwyd: 06 April 2017

Clwb codio arloesol a ddechreuwyd gan Jimi Breisford-Smith; mae disgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Hendrefoelan bellach yn cael ei gefnogi gan Technocamps. Yn y clwb, mae disgyblion wedi bod yn hunan-addysgu cysyniadau megis datblygu gwefannnau, Javascript, a mwy. Mae aelodau'r clwb yn frwdfrydig iawn ac yn dewis treulio amser yn y clwb yn ystod eu hawr ginio.

Gofynnwyd Technocamps i helpu i gefnogi'r clwb hwn, ac roedden yn fwy na pharod i helpu. Mae un o'n llysgenhadon, Kevin;  myfyriwr Meistr Peirianneg Meddalwedd, yn awr yn ymweld â'r clwb bob dydd Mercher er mwyn helpu i gymryd y clwb ymhellach.

Yn y sesiynau mae Technocamps yn darparu, rydym yn helpu i gyflwyno'r blociau adeiladu mae pob gwyddonwr cyfrifiadurol yn defnyddio o ddydd i ddydd. Yn fuan y gobaith yw y bydd y clwb yn trosglwyddo i ddefnyddio'r BBC Micro:bit i ddechrau dysgu'r plant sut mae'r cysyniadau maent wedi dysgu yn berthnasol i fwy na datblygu gwefnanau yn unig.

Ymddangosodd y clwb yn yr Evening Post yn ddiweddar.



Y newyddion diweddaraf

Y Gweinidog Addysg yn cwrdd ag academyddion blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe i drafod Technocamps a'r ffordd ymlaen ar gyfer dysgu digidol yng Nghymru.

Ymgasglodd myfyrwyr a staff o Raglen Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol Prifysgol Abertawe gyda busnesau a sefydliadau lleol yn ddiweddar i ddathlu llwyddiant y dysgwyr cyntaf i gwblhau'r cwrs tair blynedd.

Roedd Technocamps yn hynod falch o arwain ar raglen newydd arloesol a ddyluniwyd i annog menywod ifanc tuag at yrfaoedd STEM.

Yr wythnos diwethaf oedd diwedd ein Rhaglen Ysgol Haf tair wythnos gyda’r myfyrwyr o Ysgol Bae Baglan, sydd wedi cymryd rhan mewn Rhaglen IRONMAN 5 wythnos a grëwyd gan Sefydliad Yellowsands.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm


Mae'r prif bartner, Prifysgol Abertawe, yn elusen gofrestredig. Rhif. 1138342