Mae’r gweithdy micro:bit hwn yn ymdrin ag elfennau o Feysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac Iechyd a Lles. Bydd disgyblion yn dysgu hanfodion rhaglennu bloc a sut i ddefnyddio datganiadau amodol i wneud penderfyniadau mewn rhaglenni cyfrifiadurol. Bydd yr adnodd hefyd yn galluogi disgyblion i greu rhaglenni i hunan-reoleiddio emosiynau, a chyfleu eu teimladau mewn ffordd amgen.
I dderbyn gweithdai neu gyfleoedd dysgu proffesiynol rhad ac am ddim ar ddefnydd y micro:bit yn eich ysgol yng Nghymru, cysylltwch â info@technocamps.com