Technocamps yn Croesawu'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Roedd Technocamps yn falch o groesawu’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC i’w Bencadlys ym Mhrifysgol Abertawe i ddarganfod mwy am y prosiect a’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ynghyd â’i bartner, y Sefydliad Codio.

Yng nghwmni Cyfarwyddwr Technocamps yr Athro Faron Moller a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Martin Stringer, cafodd y Gweinidog daith o amgylch y Gofod Allgymorth CoSMOS a chyfarfu ag aelodau allweddol o'r tîm ac academyddion eraill.

Roedd y Gweinidog yn gallu gweld drosto'i hun y gwaith y mae'r prosiect yn ei wneud, gan gyflwyno gweithdai i bobl ifanc yng Nghymru. Roedd disgyblion o Flynyddoedd 4 a 5 o Ysgol Gynradd Creunant wrth law i arddangos y gwaith y maent yn ei wneud fel rhan o Technocamps gyda Theatr na nÓg a’i gynhyrchiad o Heliwr Pili-Pala sy’n cofleidio ethos Cwricwlwm newydd Cymru. Mae'r gweithdy'n tywys disgyblion trwy egwyddorion Dysgu Peiriant a Deallusrwydd Artiffisial gan ddefnyddio stori'r naturiaethwr Cymreig Alfred Russell Wallace fel ysgogiad, gan gyflwyno dysgu STEM mewn ffordd hwyliog a chreadigol.