Digwyddiad Hanner Tymor: Datblygu Gemau 101

adminDigwyddiad

Dros Hanner Tymor mis Hydref, rydyn ni'n cynnig dwy sesiwn ragarweiniol i fyd Dylunio Gemau! Gallwch ddewis o'r Sesiwn i Ddechreuwyr - ar gyfer y rhai sydd am ddysgu am ddylunio gemau, neu'r Sesiwn Uwch - ar gyfer y rhai sydd am fynd â'u gemau i'r lefel nesaf. Gallwch chi hyd yn oed wneud y ddau os ydych chi'n ddigon dewr...

Bydd y ddwy sesiwn yn cael eu cynnal trwy Zoom a bydd angen cyfrifiadur neu liniadur. Bydd y sesiynau'n digwydd rhwng 10am-4pm, gydag egwyl ginio a chyfle i weithio ar eich gemau eich hun rhwng 11.30am-3pm.

Sesiwn i Ddechreuwyr - Dydd Mawrth 27ain Hydref

Ydych chi am ddechrau datblygu gemau? Ydych chi eisiau dysgu cyfrinachau gemau gwych? Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i'r offer a'r technegau a fydd yn cychwyn eich taith i'r diwydiant gemau!

Byddwch yn dysgu manylion datblygu gemau o'r dechrau ac yn gwneud eich prototeip cyntaf. Byddwn yn defnyddio MakeCode Arcade (arcade.makecode.com) fel cyflwyniad ysgafn i ddylunio gemau. Os ydych chi wedi defnyddio Scratch o'r blaen, dylech chi fod yn gyfforddus.

Sesiwn Uwch - Dydd Iau 29ain Hydref

Felly rydych chi wedi gwneud gêm neu ddwy... Nawr rydych chi am ychwanegu'r sglein hwnnw sy'n mynd â hi o brosiect ystafell wely i ryddhad Steam posib! Nod y sesiwn hon yw dangos i chi beth sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau cwmni datblygu gemau a sut y gallwch chi wneud i'ch gêm sefyll allan ymysg y dorf.

Byddwch yn rhoi popeth rydych chi wedi'i ddysgu ar waith gan ddefnyddio ThreeJS (threejs.org/editor). Mae'r feddalwedd gemau 3D hon yn ffordd wych o ddysgu JavaScript ac mae'n cyflwyno llawer o'r cysyniadau a'r jargon y byddwch yn dod o hyd iddynt mewn peiriannau gemau eraill fel Unity ac Unreal Engine, gan roi blaenbwynt gwych i fywyd Datblygwr Annibynnol.