‘Craft My City’ – cyfle i bobl ifanc helpu ffurfio Caerdydd gan ddefnyddio Minecraft

adminCystadleuaeth, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

CYSTADLEUAETH AR GAU

Rydyn ni'n gweithio gyda Chyngor Caerdydd i roi cyfle unigryw ac arloesol i blant a phobl ifanc helpu i lunio dyfodol Caerdydd trwy ddefnyddio Minecraft.

Mae 'Craft My City' yn ymgyrch Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant sy'n ceisio cynnwys pobl ifanc mewn ystod o ddatblygiadau strategol trwy ddefnyddio Minecraft Education.

Mae'r dull digidol yn gosod cyfres o heriau yn y byd go iawn ac yn darparu ffordd i bobl ifanc rannu eu syniadau o sut yr hoffent i Gaerdydd edrych yn y dyfodol.

Mae'r fenter yn lansio'r wythnos hon gyda chystadleuaeth yn gwahodd plant oed ysgol i ail-ddylunio darn o dir y tu ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol canol y ddinas, gyda'r enillydd yn dylanwadu ar ailgyflenwi'r tir.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: “Mae Caerdydd yn gobeithio i ddod yn Ddinas sy’n Gyfeillgar i Blant - a gydanbyddwyd yn rhyngwladol - gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth galon polisïau, strategaethau a gwasanaethau’r ddinas.

“Mae Unicef UK wedi argymell yn gryf y dylai'r Cyngor ymgeisio am gydnabyddiaeth Dinas sy'n Gyfeillgar i Blant yn Hydref 2021, gan gydnabod y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i sefydlu plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

“Rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn ac mae'r cynllun diweddaraf hwn yn ceisio ymgysylltu â phlant a phobl ifanc gan ganiatáu iddynt fynegi eu syniadau i wella ardal yng nghanol y ddinas ar blatfform y maent yn gyfarwydd ag ef.

Dywedodd Dr Catherine Teehan o'n hyb Caerdydd: “Mae Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd wedi bod yn gweithio fel rhan o'r rhaglen Techncocamps am y saith mlynedd diwethaf. Mae gennym dîm allgymorth ymroddedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau ar gyfer addysg ddigidol ledled De Ddwyrain Cymru. 

“Rydyn ni'n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r fenter arloesol hon a defnyddio dysgu ar sail gêm i ymgysylltu ag ystod eang o blant a phobl ifanc.”

Bydd ymgeiswyr yn derbyn cynrychiolaeth ddaearyddol gywir o'r safle lle gall pobl ifanc greu eu bydoedd a'u profiadau eu hunain, gan ganolbwyntio ar warchod a hyrwyddo mannau gwyrdd.

Gellir cyflwyno ceisiadau gan un person neu grŵp.
Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 26ain Chwefror 2021 am 5pm.
Hysbysir yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ar 5ed Mawrth 2021.