Y Genhedlaeth Nesaf o Wneuthurwyr Gêm

adminNewyddion

Rydym wedi cymryd rhan mewn prosiect gyda gyda Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd a Impact Gamersyn ddiweddar. Nod y prosiect, Impact Games, oedd ysbrydoli pobl ifanc i ddod yn wneuthurwyr gemau yn hytrach na chwaraewyr gemau! Bydd y prosiect yn gorffen gydag arddangosiad o'r gemau sydd wedi'u creu fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd ym mis Chwefror 2021.

Roeddem yn falch o weithio gyda Girlguiding Cymru hefyd - sedyfliad sy'n canolbwyntio ar gefnogi datblygiad merched. Helpodd Impact Gamers, cwmni arobryn sydd wedi'i leoli yn Bradford, i ffurfio sesiynau i ddangos i bobl ifanc pa mor hwyl a hawdd y gallai codio fod. Cefnogon ni'r sesiynau gan ddefnyddio Cynllun Llysgenhadon STEM Prifysgol Caerdydd, lle mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i hyrwyddo cyfrifiaduron a STEM i bobl ifanc.

Cafodd y merched arddangosiadau o gemau eraill y gallent gymryd ysbrydoliaeth ohonynt a datblygu rhywbeth eu hunain. Roedd y broses gyfan hon yn wych gan y fod merched yn mwynhau ac yn rhannu syniadau creadigol.

Gweithiodd y prosiect gyda naw grŵp o ferched yn Girlguiding Cymru, dros chwe sesiwn anghysbell i greu naw gêm ryngweithiol a oedd yn adlewyrchu ystod o bynciau ar thema Gwyddoniaeth. Y cyfranogwyr oedd yn gyfrifol am syniadau a gweithrediad y gêm i gyd, ac roedd yn wych eu gweld yn magu hyder trwy eu hamser gyda ni. Roedd y pynciau roedd y merched yn eu hadlewyrchu yn cynnwys Archwilio'r Gofod, Glanhau'r Amgylchedd, ac ymatebion y corff i salwch. Fel y gallwch weld o'r delweddau, maen nhw wedi gwneud gwaith gwych.

Roedd y prosiect hwn yn gyfle i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr benywaidd. Mae ffigyrau UCAS yn dangos bod 16.2% o'r cymeriant 2020 ar gyfer Cyfrifiadureg yn fenywod, a oedd yn gynnydd o 1% ers y flwyddyn flaenorol. Er bod y niferoedd wedi bod yn cynyddu'n gyson dros y 5 mlynedd diwethaf, rydym yn gobeithio parhau i ddatblygu, grymuso ac annog merched i fynd i godio. Rydym yn falch o'r prosiect hwn ac o'r cyfranogwyr.

“Ers fy mhlentyndod pan oeddwn i'n ysgrifennu cod, teimlais i fod mod i'n cyflawni rhywbeth, gan roi teimlad o adrenalin i mi. Dyna pryd roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau ysbrydoli merched fel fi i dorri pob ystrydeb a dewis gwyddoniaeth gyfrifiadurol i gyflawni eu breuddwydion. Rhoddodd Impact Games y cyfle hwn i mi... Roeddwn i wrth fy modd yn cefnogi syniadau’r merched a’u cynghori i wneud eu gêm ‘berffaith’. Gwnaeth y cyfranogwyr ffrindiau gyda'i gilydd yn gyflym, a helpu ei gilydd yn y sesiynau."Arunima, Llysgennad STEM

Roedd y gemau a grëwyd yn dda iawn a gallwch weld yr holl waith caled y mae'r merched yn ei wneud ynddynt. Llwyddon nhw i ychwanegu pob math o elfen addysgol i wneud i'r gêm ymwneud â'r wybodaeth a roddwyd iddyn nhw. All teams completed their games and were happy with the outcome.”Peter, Llysgennad STEM

Bydd Digwyddiad Dathlu fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd ddydd Iau 18ed Chwefror am 6pm. Cadwch eich llygad ar dudalen digwyddiadau Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd am ragor o wybodaeth.