Llwyddiant Diwrnod Rhyngwladol Menywod

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Gan adeiladu ar Etifeddiaeth ITWales, cynhalion ni ddathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar Ddydd Llun 8 Mawrth 2021.

Rydym yn falch ein bod wedi cynnal digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod rhithwir eleni, gan groesawu dros 100 o gyfranogwyr i’r dathliad. Mae'r noson wedi dod yn nodwedd reolaidd ar galendr cymdeithasol Cymru, gyda gwesteion fel arfer yn teithio o bob rhan o'r wlad i ddod. Er bod eleni yn edrych ychydig yn wahanol, gwnaethon ni'r mwyaf o'r dechnoleg sydd ar gael i ni trwy gynnal gweminar.

Eleni oedd y 21ain digwyddiad sy'n canolbwyntio ar fenywod mewn STEM. Y thema oedd Dewis i Herio: Cydraddoldeb Rhywiol mewn STEM. Roedd y gwesteion yn cynnwys:
– Kirsty Williams AS, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
– Jacqueline de Rojas CBE, Llywydd techUK a Chyd-cadeirydd y Sefydliad Codio
– Gwen Parry-Jones OBE, Prif Swyddog Gweithredol Magnox
– Nia M Davies, Pennaeth Addysg BBC Cymru Wales

I ddechrau'r noson, clywsom gan ein Swyddogion Addysgu Nia, Rama, Lauren, Catherine, Teri a Laura a drafododd eu profiadau fel menywod mewn STEM a sut maen nhw'n meddwl y gallwn herio'r status quo.

Os wyt ti am newid y byd, gweithia mewn technoleg" – Dr Catherine Teehan, Technocamps

Trafododd Kirsty Williams AS ddyfodol addysg yng Nghymru a sut y gallwn ailgodi'n gryfach yng Nghymru ar ôl COVID:

“Rydyn ni wedi cymryd camau mawr i addasu cydraddoldeb rhywiol mewn STEM... ond mae gennym ni ffordd bell iawn i fynd eto a llawer i'w wneud”

Roedd fideo Jacqueline de Rojas yn trafod cyflawniadau menywod mewn STEM, pa mor bell y mae cydraddoldeb rhywiol wedi dod a pha mor bell y mae'n rhaid iddo fynd:

“Os ydych chi'n credu nad yw amrywiaeth o bwys neu'n broblem i bobl eraill i ddatrys, dewiswch yrfa mewn technoleg, mewn cyfrifiadureg, mewn maes digidol fel y gallwch chi ddod yn rhan o'r ateb.”

Rhoddodd Gwen Parry-Jones wers i ni mewn Ffiseg Niwclear, stereoteipio a phwysigrwydd cydraddoldeb rhywiol:

“Nid yw amrywiaeth a chynhwysiant yn opsiwn, mae'n rheidrwydd llwyr.”

Roedd y noswaith wedi gorffen gyda sesiwn ysbrydoledig gan Nia M Davies, a drafododd llwybr ei gyrfa a’r her o greu cynnwys gafaelgar ac addysgiadol i blant Cymru yn ystod y cyfnod cloi.

“Mae gwneud y cynnwys gorau posibl i ddysgwyr gyda’r nod o drawsnewid eu bywydau yn gyfrifoldeb rwy’n teimlo’n freintiedig i’w gael.”


Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bob blwyddyn, mae miloedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd, i ysbrydoli a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bedwar ban y byd, yn cynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau llywodraethau, a digwyddiadau rhwydweithio.

Roedd y digwyddiad hwn yn bosibl diolch i arian gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.