Academi STEM rhad ac am ddim ar gyfer plant yng Nhgymru dros yr Haf

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Dros yr Haf, rydyn ni'n cynnal cyfres o weithgareddau hwylus ledled Cymru fel rhan o'n Academi STEM newydd! Mae'r holl weithgareddau am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau isod, anfonwch ebost at info@technocamps.com

Abertawe

Mae unrhyw un sydd erioed wedi cymryd rhan yn ein gweithdai yn gwybod bod gennym ni ddawn o droi gwyddoniaeth a thechnoleg gymhleth yn weithgareddau hwyliog a diddorol yn yr ystafell ddosbarth.

Ym mis Awst, rydyn ni'n eich gwahodd i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol ac yn gyffrous iawn dros wyliau'r haf. Dewch draw i'n Academi STEM am ddiwrnod o weithgareddau gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Fel pawb arall, nid ydyn ni wedi bod allan yn iawn ers amser hir, felly rydyn ni wedi cael llawer o amser i gynnig syniadau hwyliog sy'n siŵr o'ch diddanu. Disgwyliwch helfeydd trysor, ystafelloedd dianc, robotiaid a rocedi!

Mae'r Academi ar agor i ddisgyblion ym Mlwyddyn 7 ac 8, ac yn rhad ac am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Croeso i unrhyw un ond byddwn yn blaenoriaethu disgyblion benywaidd os oes llwyth o ddiddordeb.

Bydd Dydd Llun a Dydd Mawrth yr wythnos hon mewn cydweithrediad â Menter Iaith Abertawe.


Tîm Prifysgol De Cymru

Mewn chwinciad, daeth y byd yn ddigidol. Gallwn ni siarad â phobl o bob cwr o'r byd fel pe baent yn yr un ystafell, a rhannu lluniau, cerddoriaeth a gwybodaeth ar-lein. Mae'r byd digidol yn lle gwych i fyw, ond mae angen i ni gadw ein gwybodaeth yn ddiogel ac yn breifat...

Ymunwch â ni ac NDEC (y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol) ym Mhrifysgol De Cymru wrth i ni gracio codau a dysgu am dechnegau diogelwch seiber sy'n cadw gwybodaeth breifat yn breifat wrth i ni ddefnyddio'r we. Byddwn ni'n edrych ar sut y gallwn guddio gwybodaeth mewn golwg plaen, anfon negeseuon preifat a dadgryptio wrth i ni hela am gliwiau a chystadlu am wobrau ar draws campws Trefforest y Brifysgol. Mae ein Gwersyll Codio yn rhedeg am dri diwrnod ar 10fed, 11eg a 12fed Awst ac mae ar agor i ddisgyblion 11-13 oed (Blwyddyn 7 ac 8). Mae'r diwrnod yn dechrau am 9.45am ac yn para tan 3.00pm. Sylwch: mae'r gweithgareddau yr un peth ar draws y tri diwrnod.

Mae'r Academi yn rhad ac am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.


Wrecsam

Mae byd o weithgareddau yn aros. A allwch chi helpu Danjac y Dewr ar ei daith epig i ddianc o Gastell Knightmare?

Cyfuniad o weithgareddau rhithwir ac yn y byd go iawn. Yn yr Wyl, bydd ffrwd fyw o anturiaethwur Danjac y Dewr sy'n gaeth mewn castell Cymreig (mewn byd mewn Minecraft: Education Edition).

Rhaid i blant yng Gwyl Darganfod ddatrys heriau cryptograffeg i ddatgloi bocsys a helpu ein hanturiaethwr ddianc o'r castell. Wrth i ddisgyblion ddatrys pos, bydd eitem arbennig yn cael ei ddatgloi i helpu Danjac fynd ymlaen yn ei antur.

Allwch chi helpu Danjac? Mae ei ddihangfa yn dibynnu arnoch CHI! Bydd y digwyddiad fel Knightmare ac ystafell ddianc a Minecraft.

Bydd y gweithgareddau yn para am ddiwrnod ac yn ail-adrodd o'r dechrau ar gyfer cynulleidfa newydd ar yr ail ddiwrnod.


Bangor

Are you ready for some micro:bit mayhem?  Using the BBC micro:bit you create a countdown timer and launch water bottle rockets to the moon! (Well, not quite).  You will see how the sensors of the microbit can be used to monitor, record and analyse aspects of its flight.  You will then go on to make an improved ‘Buzz wire’ game that includes sound and greater interactivity using further aspects of the micro:bit’s functionality. 

Bydd ein canolfan ym Mangor yn cefnogi gweithgareddau'r gwyliau haf sy'n cael eu cynnal gan awdurdodau lleol yn ystod mis Gorffennaf ac Awst ar draws Gogledd Orllewin Cymru.

Mae'r digwyddiadau yn cael eu cynnal rhwng 10.00 - 15.00

26ain Gorffennaf – Neuadd Goffa Porthaethwy, Pont Menai
27ain Gorffennaf – Eglwys Bach Niwbwrch, Llanfairpwllgwyngyll
29ain Gorffennaf – Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch
30ain Gorffennaf – Neuadd Bentref Bodedern
3ydd Awst – Neuadd y Dref, Cyngor Tref Caergybi
9th August – Canolfan Dewi Sant Centre, Pensarn (Cofrestru)
10fed Awst – Canolfan Teulu y Gorllewin, Neuadd Goffa, Llandudno
11th August  – Ty Llewellyn Community Centre, Ffordd yr Osedd, Llandudno, LL30 1AL
11eg -12fed Awst – Academi STEM Technocamps fel rhan o 'Haf o Hwyl' Conwy, lleoliadau i'w cadarnhau
13eg Awst – Canolfan Deulu Llanrwst, Llanrwst
17eg Awst – Clwb Rygbi Llangefni
18fed Awst – Canolfan Gwelfor Caergybi
19eg Awst – Capel Moreia (Capel Coffa John Elias), Llangefni
24th August – Salford Childrens Holiday Camp, Prestatyn (Cofrestru)
26th August – Ruthin Youth Centre (Cofrestru)


Caerdydd

Gwên o Haf – We are taking part in Child Friendly Cardiff’s Summer of Smiles event! We will be offering unplugged activities and tech demonstrations on City Hall lawn in Cardiff on 21 July, 28 July and 4 August. Entry to the event is £2 and you can register yma!

Clwb Cofio Pafiliwn Butetown  - Clwb codio amser cinio am 6 wythnos o 27 Gorffennaf ymlaen. Byddwn yn darparu gweithgareddau heb a gyda'r angen am ddyfais electronig bob dydd Mawrth rhwng 11.30am - 12.30pm. Mae'r digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim ond mae'n hanfodol archebu lle!