Gweminar WiST: Awtomataidd ac Effeithlon

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Sut allwch chi wneud eich busnes yn fwy effeithlon? Gall prosesau awtomataidd eich helpu i gyfathrebu â'ch cynulleidfaoedd, symleiddio'ch polisïau AD a hyd yn oed ddatrys problemau cyn iddynt godi.

Yn ein gweminar rhwydweithio nesaf ar 17 Medi 2021, bydd Emily Bristow o Blue Prism yn trafod sut i wneud eich busnes yn fwy effeithlon drwy brosesau awtomataidd.

Emily Bristowe yw Pennaeth Llwyddiant Cwsmer EMEA ar gyfer Blue Prism, crewyr awtomeiddio prosesau robotig. Mae Emily a'i thîm yn gweithio gyda chwsmeriaid Blue Prism i'w helpu i wneud y gorau o'u gweithlu digidol a chyflawni eu hamcanion busnes. Yn flaenorol Emily oedd Pennaeth Awtomeiddio Deallus y DU yn y cwmni ymgynghori TG byd-eang CGI cyn ymuno â Blue Prism ym mis Mehefin 2018. Yn raddedig MSc, mae gan Emily fwy na 10 mlynedd o brofiad ar draws amrywiaeth o rolau TG a gweithredol.

Mae ein digwyddiadau WiST wedi'u hanelu at fenywod yn y sector technoleg (neu sydd â diddordeb brwd yn y diwydiant) i ddysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill a rhwydweithio â phobl o'r un anian. Mae pob digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.