Rhaglen DPP Archrededig Rhad ac am Ddim i Athrawon Ysgol Gynradd

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydyn ni'n cynnig rhaglen DPP 10-sesiwn i athrawon ysgol gynradd gyda'r bwriad o wella gwybodaeth am Gyfrifiadureg a Meddwl Cyfrifiadurol a chymhwyso’r sgiliau hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn strategol ar draws yr ysgol.

Yn dilyn llwyddiant y sesiynau hyfforddi rhithwir y cynigion ni i athrawon ysgol gynradd yn ystod y cyfnod cloi, rydym yn falch o allu cynnig rhaglen lawn rhwng 15 Medi - 24 Tachwedd 2021. Mae'r sesiynau hefyd yn cysylltu â'r DCF ac yn gweithio ar draws AoLEs newydd y cwricwlwm newydd.

Trwy gymryd rhan yn y rhaglen hon, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth gan ddod yn Athro Technocamps Ardystiedig, a bydd eich ysgol yn ennill statws Ysgol Technocamps Ardystiedig ar lefel Efydd, Arian neu Aur.

Dyrennir gwobrau ar sail cwblhau rhaglen Hyfforddi (DPP) Athrawon Technocamps gan athrawon unigol, ac ar sail nifer yr athrawon sy’n cwblhau’r rhaglen yn yr ysgol.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 3.30-5.30pm ar y diwrnodau canlynol:
15fed Medi
22ain Medi
29ain Medi
6ed Hydref
13eg Hydref
20fed Hydref
3ydd Tachwedd
10fed Tachwedd
7fed Tachwedd
24ain Tachwedd