Clwb Codio am ddim ar gyfer Disgyblion yng Nghymru

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae ein hymrwymiad i ddarparu'r sgiliau y mae eu hangen ar blant i ddatblygu a thyfu yn parhau, ac rydym bellach yn cynnig clybiau codio rhithwir ar ôl ysgol i blant 9-16 oed. Mae Technoclub yn gyfle i bobl ifanc ennill profiad cyfrifiadurol yn ystod sesiynau rhyngweithiol byw y tu allan i'r ysgol.

Mae'r clwb yn darparu sesiwn wythnosol am ddim lle bydd y disgyblion yn dysgu sgiliau Cyfrifiadureg newydd wrth weithio tuag at nod prosiect terfynol. Mae wedi'i hanelu at bob gallu, a'r cyfan y mae ei angen yw mynediad i'r rhyngrwyd. Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o ran codio neu raglennu er mwyn ymuno â'r clwb. 

Mae'r clwb yn wych ar gyfer y rheiny sydd wedi mynychu ein gweithdai mewn ysgolion, gan eu galluogi i feithrin eu sgiliau yn hawdd wrth eu pwysau ac mewn amgylchedd dysgu llai ffurfiol. Mae hefyd yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr gan fod y sesiynau wedi'u cynllunio'n fwriadol i ddarparu ar gyfer dysgwyr o bob lefel.

Mae Technoclub yn cael ei gynnal gan ein Swyddogion Darparu profiadol ac ymroddedig, sy'n cylchdroi eu haddysgu fel bod pob sesiwn yn newydd ac yn ffres. Ymdrinnir ag ystod eang o bynciau cyfrifiadurol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu, er enghraifft Greenfoot, Logo, Python, micro:bit y BBC, Scratch, Lego Mindstorm a rhai sesiynau Meddwl Cyfrifiadurol hwyliog (ac ymarferol) yn seiliedig ar ddamcaniaethau.

Mae Technoclub yn rhedeg trwy gydol y tymor ysgol, a hynny rhwng 4.30pm-6.30pm ar ddydd Llun a dydd Mercher, a rhwng 4-6pm ar ddydd Gwener.

Y tymor hwn, byddwn yn dysgu Python Turtle a Minecraft yn ein sesiynau Dydd Llun , bydd ein sesiynau Dydd Mercheryn canolbwyntio ar ail-ymgyfarwyddo gyda rhaglennu drwy gyflawni cyfres o weithgareddau cyffrous gan ddefnyddio Scratch, a bydd ein sesiynau Dydd Gwener yn edrych ar chwarae a dysgu gyda thechnoleg mewn amgylchedd hwylus.

Technoclub logo