Gweminar WiST | LinkedIn: Ti yw'r Gorau o Bell

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae ein digwyddiadau WiST wedi'u hanelu at fenywod yn y sector technoleg (neu sydd â diddordeb brwd yn y diwydiant) i ddysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill a rhwydweithio â phobl o'r un anian. Mae pob digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.

Bydd ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal dros Zoom rhwng 11.45am-1.15pm ar Ddydd Gwener 3ydd Rhagfyr. Bydd y sesiwn amser cinio yn darparu cyfle i glywed gan ein siaradwr, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhyngweithio gyda phobl debyg mewn amgylchedd anffurfiol.

Gweledigaeth LinkedIn yw creu cyfle economaidd i bob aelod o’r gweithlu o gwmpas y byd. Trwy fapio'r economi fyd-eang yn ddigidol, bydd yn gallu cysylltu talent â chyfle ar raddfa enfawr a helpu unigolion i reoli eu tynged eu hunain. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod llawn profiadau newydd, gan yrru llawer i chwilio am gyfleoedd newydd a newid yn eu gyrfaoedd. Mae LinkedIn wedi bod yn llwyfan pwerus wrth gysylltu pobl â'u swyddi delfrydol ar draws y byd, yn fwy nawr mai gweithio o bell yw'r norm.

Mae Nicola Doherty yn Bennaeth Gwerthu (Addysg) yn LinkedIn a bydd yn trafod y cyfleoedd y gall LinkedIn eu darparu mewn byd ôl-coronafirws newydd. Dysgwch sut i wneud y gorau o LinkedIn, hyrwyddo'ch hun i gyflogwyr y dyfodol a rhwydweithio ag eraill ledled y byd.