Paratoi'r Gweithlu at 2030: Sgiliau ac Addysg ar gyfer Roboteg a Systemau Ymreolaethol

adminNewyddion

Cyfranon ni at adroddiad gan Brifysgol Sheffield sy'n archwilio'r arferion gorau ac argymhellion ar gyfer dysgu roboteg.

Mae'r papur yn ymdrin â phwysigrwydd ailsgilio gweithlu'r DU, pwysigrwydd sicrhau bod gan bobl o bob cefndir y sgiliau hyn a phwysigrwydd o ddysgu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau technolegol esblygol.

Mae'r adroddiad yn cydnabod y gwaith y mae Technocamps yn ei wneud i wella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y diwydiant STEM, ac ennyn diddordeb plant ac oedolion sy'n dysgu mewn cyfrifiadureg. Mae hefyd yn argymell bod sefydliadau yn dilyn esiampl Technocamps o ddefnyddio ysgolion fel hybiau i addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gyfrifiadurwyr.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adroddiad, mae angen Technocamps i barhau i uwchsgilio Cymru, ac rydym yn falch o weld y gwaith sy’n cael ei wneud gan y prosiect yn cael ei roi fel enghreifftiau o arfer gorau mewn adroddiadau academaidd.