Gweithgareddau STEM Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar gyfer Merched yng Nghymru

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydym yn cynnig gweithdai STEM hwyliog a rhad ac am ddim ledled Cymru i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Cydnabyddir yn eang nad oes gan ferched gynrychiolaeth ddigonol yn niwydiannau STEM, ac un o brif amcanion prosiect Technocamps dan gyllid Ewropeaidd yw ceisio mynd i'r afael â'r balans. Gan ategu ein dathliad blynyddol o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydym yn canolbwyntio ar y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr eleni drwy wahodd disgyblion benywaidd i fore unigryw o weithgareddau Menywod mewn STEM.

Ar Ddydd Mawrth 8fed Mawrth, byddwn yn dathlu ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy ddarparu gweithdy STEM hwyliog a deniadol i ddisgyblion uwchradd Cymru. Bydd y gweithdy yn canolbwyntio ar hanes Menwyod mewn STEM a phwysigrwydd ac effaith gwaith merched yn y diwydiant trwy hanes.

Byddwn yn cyflwyno nifer cyfyngedig o weithdai corfforol mewn ysgolion, gydag opsiwn i athrawon gyflwyno'r gweithdy ar gyfer ysgolion eraill. Bydd y gweithdy yn cael ei ddilyn gan sgwrs a sesiwn holi gan Gomisiynydd y Plant newydd dros Gymru, Rocio Cifuentes!

Os hoffech chi gofrestru eich ysgol am sesiwn i ferched, cofrestrwch isod erbyn Dydd Mercher ail Mawrth.