Cystadleuaeth Game of Codes 2022: Brwydro Newid Hinsawdd

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

CYSTADLEUAETH AR GAU

Mae ein cystadleuaeth codio ar gyfer disgyblion yng Nghymru yn ôl! Eleni, rydyn ni'n gofyn cyfranogwyr i greu darn o feddalwedd o dan y thema Brwydro Newid Hinsawdd.

Mae ein cystadleuaeth raglennu Game of Codes yn cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm wrth wella eu gwybodaeth am raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.

Yr her yw creu darn o feddalwedd o dan y thema Brwydro Newid Hinsawdd. Gallai enghreifftiau gynnwys gemau i ddysgu pwysigrwydd mynd i’r afael â materion amgylcheddol, apiau i helpu pobl gydag ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau, gemau Scratch i ddysgu gwyddor hinsawdd, byd yn Minecraft i ddangos sut mae amddiffynfeydd llifogydd yn gweithio, neu rywbeth sy’n ein helpu i ddysgu am newid hinsawdd mewn ffordd newydd, hwyliog.

Rhaid bod gan y feddalwedd ddyluniad gwreiddiol ar ffurf gêm, gwefan, ap, cwis neu animeiddiad. Gellir defnyddio unrhyw iaith codio i greu’r meddalwedd (e.e. Scratch, Python, Java, Visual Basic, App Inventor neu HTML), a gallwch ddefnyddio’r Raspberry Pi neu’r BBC micro:bits sydd gennych yn eich ysgol.

Gallwch gystadlu fel tîm neu fel unigolyn. Rhaid i bob cynnig ddarparu cyswllt athro (neu arweinydd clwb/rhiant) a chael cefnogaeth eu hysgol cyn gofrestru. Nid oes cyfyngiad ar nifer y timau/unigolion y gall ysgol gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

Cofrestriadau Tîm
Yn ystod y cyfnod cyn y gystadleuaeth, gall grwpiau yn eich dosbarth ysgol, disgyblion o'ch ysgol gynradd leol neu'ch Technoclub cyfan gyfrannu at ddatblygiad eich meddalwedd. Ond, ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth, bydd angen i chi enwebu tîm o ddau i chwech o bobl o'r ysgol a allai fynychu'r gystadleuaeth olaf a'r diwrnod gwobrwyo. Mae'n bwysig bod gan y grŵp gallu cymysg. Dim ond ceisiadau tîm fydd yn cael eu derbyn i'r gystadleuaeth a rhaid i bob cais tîm ddarparu cyswllt athro (neu arweinydd clwb) a chael cefnogaeth eu hysgol, cyn cystadlu. Nid oes cyfyngiad ar nifer y timau y gall ysgol gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
– Enw'r prosiect
– Bwriad y prosiect - pwy yw'r gynulleidfa?
- Aelodau'r tîm
– Sut gafodd y feddalwedd ei chreu? (e.e. Pa iaith gafodd ei defnyddio?)
– Tystiolaeth o'ch meddalwedd e.e. sgrinluniau, ffeil feddalwedd neu ffotograffau o'r cynnyrch terfynol)
– Design of the project (e.g. What did it look like before you started coding? Did you have any characters?  How did you decide what the project was going to achieve?)
– Reflection (How did you make decisions as a team?  What was the responsibility of each team member? What steps did you take to make the software?  Did you make any changes and if so, what changes? What did you learn when creating the final project?)

Cofrestriadau Unigol
Dylai unigolion gyhoeddi cyflwyniad poster sy'n cynnwys y canlynol:
– Enw'r prosiect
– Bwriad y prosiect - pwy yw'r gynulleidfa?
– Sut gafodd y feddalwedd ei chreu? (e.e. Pa iaith gafodd ei defnyddio?)
– Tystiolaeth o'ch meddalwedd e.e. sgrinluniau, ffeil feddalwedd neu ffotograffau o'r cynnyrch terfynol)
– Dyluniad y prosiect (Sut olwg oedd arno cyn i chi ddechrau codio? A oedd gennych unrhyw gymeriadau? Sut wnaethoch chi benderfynu beth oedd y prosiect yn mynd i'w gyflawni?)
Myfyrio (Sut wnaethoch chi wneud penderfyniadau fel tîm? Trafodwch gyfrifoldeb pob aelod o'ch tîm. Pa gamau wnaethoch chi eu cymryd i wneud y feddalwedd? A wnaethoch chi unrhyw newidiadau, os felly, pa newidiadau? Beth wnaethoch chi ei ddysgu wrth greu'r prosiect terfynol?)

Cofiwch wrth greu eich meddalwedd, mae'n hanfodol ystyried y canlynol:
A yw eich meddalwedd yn arloesol? A yw'ch meddalwedd yn arloesol? A fydd pobl eisiau ei ddefnyddio? Allwch chi gyrchu meddalwedd debyg ar y farchnad? Beth sy'n gwneud eich meddalwedd yn wahanol? Pam fyddai rhywun eisiau defnyddio'ch meddalwedd?
Pwy yw cynulleidfa eich meddalwedd a sut fyddech chi'n eu targedu? Er enghraifft, os yw'ch gêm feddalwedd wedi'i thargedu at bobl yn eu harddegau, sut y byddwch chi'n sicrhau eu bod am ddefnyddio'r feddalwedd?
Byddwch yn greadigol! A gwnewch yn siwr bod eich meddalwedd yn edrych yn hwylus

Dyddiadau Allweddol:
– Rhaid cofrestru gan ddefnyddio'r ffurflen isod a'i hanfon at gameofcodes@technocamps.com gyda'r llinell bwnc Technocamps Game of Codes Competition erbyn 4pm ar Ddydd Llun 14ed Mawrth 2022
– Hysbysir yr ymgeiswyr ar y rhestr fer ar ar Ddydd Llun 21ain Mawrth 2022
– Gwahoddir timau ar y rhestr fer i fynychu'r diwrnod gwobrwyo a gynhelir gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg yn Abacws, Caerdydd ar Ddydd Mercher 6ed Ebrill 2022, lle bydd timoedd yn cael y cyfle i arddangos eu gwaith i academyddion a beirnydd arbennig
– Bydd y timau gorau yn derbyn gwobrau gan gynnwys gwahoddiad arbennig i ddigwyddiad lansio Abacws gan gynnwys darlith gan darlledydd teledu a mathemategwr Hannah Fry yn Abacws ar Ebrill 27ed 2022, a bydd pob tîm yn derbyn Tystysgrif a phecyn o wobrau.