Gweithdai Cyfrifiadurol rhad ac am ddim ar gyfer Ysgolion Cynradd ym Mlaenau Gwent

adminDigwyddiad, Newyddion a Digwyddiadau

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi ein bod ni nawr yn cynnig gweithdai a chitiau LEGO Spike Prime rhad ac am ddim i ysgolion cynradd ym Mlaenau Gwent i gefnogi datblygiad y cwricwlwm newydd!

Mae ein prosiect newydd, mewn partneriaeth â Prifysgol Met Caerdydd trwy ein grant Adnewyddu Cymunedau, yn cynnig ysgolion cynradd ym Mlaenau Gwent y cyfle i fwcio tri gweithdy Cyfrifiadureg trwy gydol y tymor ar gyfer Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6. Byddwn ni hefyd yn darparu citiau LEGO Spike Prime i'r dosbarthiadau a sesiynau DPP ar gyfer yr athrawon i'w cefnogi yn dysgu'r cwricwlwm newydd.

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn nhymor y Gwanwyn o dan y themâu canlynol:

  1. Meddwl Cyfrifiadurol heb ddyfais electronig
    Yn y gweithdy hwn bydd disgyblion yn dysgu 4 llinyn Meddwl Cyfrifiadurol trwy weithgareddau hwyliog a gafaelgar a pham eu bod yn chwarae rhan bwysig ym mywyd beunyddiol, trwy weithgareddau hwyliog a gafaelgar.
  2. Dewis rhwng:
    Y Bluen Wen
    Cyfle i ddysgu am y Rhyfel Byd Gyntaf a'r gwahanol ddulliau o ysgrifennu a thorri negeseuon cod, a defnyddio'r sgilliau hyn i stopio bom rhithwir!
    Modei Sombiau ac Afiechydon Eraill
    Ydych chi erioed wedi meddwl beth fyddai'n digwydd pe bai firws Zombie yn dechrau lledaenu ledled y wlad? A yw'n bosibl atal y lledaeniad, sut fyddech chi'n rhagweld faint o bobl a allai gael eu heintio a pha fesurau y gallech eu rhoi ar waith i arafu'r ymlediad? Fel rhan o'r gweithdy hwn byddwch yn dysgu am y cysyniad o fodelu afiechydon trwy amrywiaeth o weithgareddau ac yn archwilio eu cysylltiadau â'r achos pandemig byd-eang parhaus gan COVID-19.
    NEU
    Heliwr Pili-Pala
    Cyfle i ddysgu popeth am Alfred Wallace a Dysgu Peiriant yn y gweithdy hwn a ddatblygwyd i gyd-fynd â drama Theatr Na NÓg "The Butterfly Hunter".
  3. Roboteg
    Cyflwyniad i raglennu Roboteg Lego. Gellir addasu prosiectau ar gyfer CA3 a CA4 ac at eich anghenion.

Os ydych wedi'ch lleoli y tu allan i Flaenau Gwent ond byddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn yn eich ardal, cwblhewch y ffurflen fer hon i adael i ni wybod!