Cyfres Podlediad Newydd i Annog Pobl Ifanc i Ystyried Gyrfaoedd STEM

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae ein podlediad, Technotalks, yn bwriadu diddanu a dysgu pobl ifanc am y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt yn y sectorau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae Cyfres 2 ar gael nawr!

Bob wythnos, mae pobl ysbrydoledig mewn gyrfaoedd STEM yn trafod beth mae eu swydd yn ei olygu, eu llwybr gyrfa a'r dechnoleg newydd gyffrous yn eu maes. Laura Roberts, un o'n Cydlynwyr Rhanbarthol, sy’n cynnal y podlediad, gan gyfweld â gwesteion o bob rhan o Gymru a thu hwnt am eu rolau mewn STEM.

Mae’r podlediad yn dilyn llwyddiant rhaglen GiST Technocamps, sef cyfres o weminarau lle mae menywod mewn STEM yn dangos eu swyddfeydd i blant ysgol ac yn trafod eu swyddi cyn ateb cwestiynau gan fynychwyr. Gyda dros 220 yn bresennol ers ei lansio ym mis Medi, mae'r rhaglen wedi ennill dilyniant mawr. Nod y podlediad yw dod â'r un cyngor i gynulleidfaoedd mewn modd mwy hygyrch fel y gallant wrando yn eu hamser eu hunain.

Mae penodau'n cael eu rhyddhau bob wythnos ac mae pob pennod tua hanner awr o hyd. Nod y podlediad yw cyrraedd merched 11-18 oed yng Nghymru, ond mae'r sioe ar gael i gynulleidfa ehangach ar technocamps.com a Spotify.

Episod 1: Fran Moore
Dydd Gwener 4ydd Mawrth
Yn episod gyntaf y gyfres, mae Laura yn siarad â Pheiriannwr Meddalwedd a Model Rol Technocamps, Fran Moore! Rydym hefyd yn trafod Ada Lovelace yn ein adran Menywod mewn STEM. 

Episod 2: Dr Sarah Glanville
Dydd Gwener 11eg Mawrth
Mae Dr Sarah Glanville, Gwyddonydd Deunydd yn Renishaw, yn siarad i Laura am oresgyn heriau dyslecsia a phwysigrwydd bod yn chwilfrydig! Yna, rydyn ni'n dysgu am Anne-Maria Imafidon yn ein hadran Menywod mewn STEM.

Episod 3: Katie Harbach a Jo Addison
Dydd Gwener 18fed Mawrth
Ydych chi erioed wedi cael syniad da nad oeddech chi eisiau i rywun arall ei ddwyn? Yr wythnos hon, rydyn ni'n trafod patentau! Rydyn ni'n sgwrsio â'r Archwiliwr Patent Katie Harbach a'r Twrnai Patent Jo Addison am eu rolau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol a Haseltine Lake Kempner a sut maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd i helpu dyfeiswyr i ddiogelu eu syniadau.

Episod 4: Beth Jenkins, Cybersecurity
Dydd Gwener 25ain Mawrth
Rydyn ni'n siarad â’r Archwiliwr Fforensig Digidol, Beth Jenkins, am ei gwaith cyffrous gyda’r heddlu yn ymchwilio i dystiolaeth ddigidol. Rydym hefyd yn trafod Roma Agrawal yn ein hadran Menywod mewn STEM.

Episode 5: Carys Chambers
Dydd Gwener 8fed Ebrill
Yn yr episod Cymraeg hon, mae ein Swyddog Addysgu Lois yn siarad â Megan Owen, sy’n gweithio fel Ymchwilydd PhD yn y Sefydliad Dyfodol NiwclearYna, rydyn ni’n trafod Betsi Cadwaladr yn ein hadran Menywod mewn STEM. [This episode was recorded through the medium of Welsh.]

Episode 6: ABPI
Dydd Gwener 1af Ebrill
Yn episod olaf y gyfres hon o Technotalks, mae Laura yn siarad â Marvellous, Jennifer a Victoria o Gymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain am eu llwybrau anarferol i mewn i Wyddoniaeth.