Cyfle DPP AM DDIM ar gyfer Athrawon yng Nghymru

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae Technocamps unwaith eto yn cynnig cyfle gwych ac unigryw i athrawon a gweithwyr cymorth o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru; hyfforddiant tuag at Dystysgrif mewn Cyfrifiadura i Athrawon QCF-Lefel 3yn dechrau yn nhymor Hydref 2022. Rydym yn cynnig y gymhwyster hon yn hollol RAD AC AM DDIM i ysgolion ac athrawon.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyfoeth o gynnwys a gwybodaeth phedagogaidd i alluogi a gwella darpariaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfrifiadureg ac (ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd) y manylebau TGAU a Safon Uwch newydd mewn Cyfrifiadureg. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn sesiynau ymarferol a deniadol gan Swyddogion Cyflwyno Technocamps profiadol gyda'r cwrs wedi ei rannu dros 18 sesiwn diwrnod llawn trwy gydol y flwyddyn ysgol.

Mae'r Dystysgrif yn cynnwys pedair uned sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau, o raglennu i theori. Mae'r oriau dysgu dan arweiniad a argymhellir ar gyfer pob uned yw 30 awr. Bydd asesu ar gyfer pob uned yn gofyn i athrawon i gynhyrchu cynllun gwaith manwl ar ffurf electronig, ac adnoddau dysgu i gefnogi cyflwyno cyfres o fwy na phedwar i chwe gwers ar gyfer yr uned honno sy'n dangos dealltwriaeth yr athro o sut i gyflwyno ei gynnwys mewn ffordd ddiddorol yn yr ystafell ddosbarth. Hon fydd y bedwerydd flwyddyn i ni gynnal y rhaglen hon, gyda 68 o athrawon yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus gyda ni.

Roedd pob cyfranogwr wedi adrodd bod y cwrs wedi cael effaith fawr arnyn nhw, eu hysgolion a'u disgyblion. Mae ceisiadau ar gyfer 2022 ar agor nawr! Os hoffech chi gymryd rhan yn y cwrs, a wnewch chi lenwi'r ffurflen isod a'i hanfon art info@technocamps.com.