Academi STEM 2022

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Dros yr Haf, rydyn ni'n cynnal cyfres o weithgareddau hwylus i ysgolion yn Abertawe fel rhan o'n Academi STEM! Mae'r holl weithgareddau am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae unrhyw un sydd erioed wedi cymryd rhan yn ein gweithdai yn gwybod bod gennym ni ddawn o droi gwyddoniaeth a thechnoleg gymhleth yn weithgareddau hwyliog a diddorol yn yr ystafell ddosbarth!

Yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn academaidd (4-22 Gorffennaf), rydyn ni'n eich gwahodd i wneud rhywbeth cyffrous a gwahanol. Dewch i'n Hacademi STEM am ddiwrnod o weithgareddau gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe (neu yn eich ysgol).

Thema eleni yw Iechyd Ti a'r Blaned, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed i gael syniadau hwylus i ddiddanu ac ennyn diddordeb plant eich dosbarth yn y cwricwlwm. Bydd helfeydd trysor, robotiaid, technoleg wisgadwy, Minecraft a mwy!

Anelir yr Academi at ddisgyblion ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7 ac mae'n hollol rad ac am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiadau isod, anfonwch ebost at info@technocamps.com

Mae pob gweithgaredd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.