Technocamps ym Mharti Ponty 2022

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydyn ni'n gweithio gyda Menter Iaith RCT i ddarparu gweithgareddau STEM yn yr ŵyl ym mis Gorffennaf.

Ar ôl egwyl dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r ŵyl Gymraeg Parti Ponty yn ôl a byddwn ni yno i arddangos gweithgareddau Cyfrifiadureg hwylus.

Bydd gweithgareddau clera gwyddoniaeth a chyfrifiadureg rhyngweithiol, Roboteg LEGO a helfa drysor! Byddwn ni yno ar Ddydd Sadwrn 2il Gorffennaf rhwng 10am-4pm yn adeilad Caffi'r pwll nofio.

Bydd 4 ysgol yn cefnogi'r digwyddiad: Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Uwchradd Pontypridd a Ysgol Garth Olwg. Dewch draw i ddysgu rhywbeth, mwynhau a fel bob tro, casglu nwyddau Technocamps am ddim!