Technocamps yn dysgu disgyblion ym Mlaenau Gwent am 5G

adminNewyddion

Rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion ym Mlaenau Gwent i addysgu disgyblion sut y gallai cysylltedd 5G drawsnewid y ffordd rydyn ni'n byw a gweithio gyda phrofiad Realiti Estynedig rhyngweithiol newydd sy'n cael ei ddarparu fel rhan o fenter Datgloi 5G Cymru.

Wedi'i ddatblygu gan Jam Creative Studios a'i ddarparu mewn ysgolion gan Technocamps, mae'r profiad yn galluogi plant i weithio mewn timoedd i ddatgloi cysylltedd 5G o amgylch tref rhithwir drwy ddarparu gweithgareddau STEM hwylus.

Wedi'u chwarae gan grwpiau bach ar iPads, mae'r gweithgareddau'n cynnwys rhai o'r sectorau gwahanol y bydd cysylltedd 5G yn eu trawsnewid; gofal iechyd, amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, ailgylchu a thrafnidiaeth a bydd yn galluogi plant i weld newid amlwg yn y seilwaith wrth iddynt gerdded o gwmpas ac archwilio'n fanwl amgylchedd y dref rithwir 3D mawr.

Wedi’i anelu at blant ym mlwyddyn 6 a 7, bydd y profiad hefyd yn helpu plant gyda’u trosglwyddiad o addysg gynradd i addysg uwchradd, gan y bydd plant blwyddyn 7 yn ymwneud â gweithio gyda phlant blwyddyn 6 wrth iddynt gyflawni eu tasgau.

Dywedodd Stewart Powell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technocamps, “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal gweithdai i ysgolion cynradd yr ardal i addysgu pobl ifanc ar sut mae 5G yn gweithio, gan chwalu mythau ynghylch 5G a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i gyflwyno technoleg newydd ar draws y rhanbarth yn y blynyddoedd i ddod.”

Eglurodd Adam Martin-Jones, Cyfarwyddwr Jam Creative Studios, “Rydym wedi defnyddio technoleg angori cwmwl i alluogi athrawon mewn gwahanol ysgolion i osod y dref rithwir yn ystafell ddosbarth o’u dewis. Yna caiff y profiad ei angori i’r ardal honno fel bod y plant i gyd yn gallu cerdded o’i amgylch yn annibynnol a rhyngweithio ag ef…”