Mwynhau Roboteg gyda Gweinidog yr Economi

adminNewyddion

Ar Ddydd Gwener, cymerodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething MS, ran yn ein gweithdy STEM.

Ymwelon ni ag Ysgol Gynradd St Cuthbert's yng Nghaerdydd yn ddiweddar ar gyfer gweithdy STEM gyda'r disgyblion yno. Daeth y Gweinidog draw i weld ein gwaith i ysbrydoli ac ymgysylltu pobl ifanc yn yr ardal â Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn yr ysgol a thu hwnt.

Ymunodd Mr Gething â'n gweithdy Roboteg lle roedd disgyblion yn dysgu i raglennu a rheoli robotiaid yn y dosbarth, cyn trafod ein gwaith gyda'n Cyfarwyddwr yr Athro Faron Moller. Roedd ganddo ddiddordeb brwd yn ein rhaglen GiST sy'n annog merched i ystyried pynciau STEM yn yr ysgol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technocamps, Stewart Powell, "Roedd hwn yn gyfle gwych i ddangos Llywodraeth Cymu yr effaith gadarnhaol ein gwaith ar blant ledled Cymru. Ar ôl croesawu Jeremy Miles AS i swyddfeydd Technocamps yn gynharach yn yr wythnos, mae'n glir bod prosiect Technocamps yn effeithiol a gwerthfawr."