Llwyddiant Academi STEM 2022

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Fel rhan o Academi STEM Technocampsyr haf hwn, cynhalion ni lwyth o weithgareddau hwylus ledled Cymru i ysgogi, ysbrydoli ac ymgysylltu pobl ifanc â phynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Mae unrhyw un sydd erioed wedi cymryd rhan yn ein gweithdai yn gwybod bod gennym ni ddawn o droi gwyddoniaeth a thechnoleg gymhleth yn weithgareddau hwyliog a diddorol yn y dosbarth! Felly ym mis Gorffennaf, cynhalion ni weithdai i bron i 1,000 o blant yn ein swyddfeydd ym Mhrifysgol Abertawe a mewn ysgolion ar draws Cymru. Gyda'r thema Iechyd Ti a'r Blaned, roedd plant yn mwynhau rhaglennu Microbits i ddiffodd goleuadau, robotiaid i drefnu sbwriel ac ailgylchu a byd Minecraft i helpu yn erbyn llifogydd. Roeddent hefyd yn dysgu am dechnoleg wisgadwy, yn cymryd rhan mewn her cyfri camau a ffeindio eu ffordd mewn helfa drysor. Roedd y plant yn dysgu am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg y gweithgareddau, yn ogystal â phwysigrwydd ymwybyddiaeth am eu heffaith ar yr amgylchedd.

Adborth gan ddisgbylion:
“Roedd hi'n hwylus dros ben!”
“Ges i lwyth o hwyl a hoffwn i ddod nol eto."
"Roedd y gweithdy yn hwylus iawn a dysgais i lawer."

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Technocamps, Luke Clement, “Ar ôl cwpwl o flynyeddoedd hir o gyflawni ein gweithgareddau yn rhithwir, roedd yn wych cael staff a disgyblion yn ôl ar y safle yn mwynhau cymryd rhan yn yr holl weithdai. Nawr rydyn ni'n edrych ymlaen at ddysgu eto mewn ysgolion yn y tymor newydd yn fwy nag erioed!”

Cafodd bob gweithgaredd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.