Cynhadledd Addysg 2022: Cyfrifiadura ar draws y Cwricwlwm

adminDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Rydyn ni'n cynnal ein Cynhadledd Addysg 2022 yn Stadiwm Swansea.com ar Ddydd Iau 1af Rhagfyr!

Mae’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno ac rydym yma i’ch helpu gydag unrhyw atebion, adnoddau a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch. Bydd y sgyrsiau yn ymdrin â sut y gallwch ymgorffori cyfrifiadureg ar draws y cwricwlwm a byddant yn berthnasol i athrawon a staff cymorth ysgolion cynradd ac uwchradd. Pa bynnag pwnc rydych chi'n ei addysgu, byddwn yn trafod sut y gallwch roi ethos eich maes pwnc ar waith gan ddefnyddio iaith raglennu a meddwl cyfrifiadurol.

Mae ein cynhadledd addysg blynyddol yn bwriadu dod ag addysgwyr digidol Cymru ynghyd i rannu arferion gorau, hysbysu am y newidiadau cwricwlwm diweddaraf a hyrwyddo'r gefnogaeth sydd ar gael.

Rhaglen:
12pm Cinio
12.30pm Cyflwyniad gan Technocamps
12.40pm Leigh Edwards (Ysgol Hirwaun)
12.55pm Tomi Rowlands (Ysgol Bro Hyddgen)
1.10pm Richard Clement (Gwasanaeth Ysgolion Caerdydd)
1.25pm Egwyl
1.35pm Gweithdy: Dysgu Peiriant a Biasau
2.25pm Gweithdy: Ymgorffori Ieithoedd Rhaglennu i Bynciau Eraill
3.30pm Sesiwn opsiynol ar gyfer athrawon y TGAU Technoleg Ddigidol
4.30pm Diwedd