Digwyddiad WiST | Cer Amdani: Rhwydweithio 101

adminDigwyddiad, Newyddion a Digwyddiadau

11.45am-1.15pm, Dydd Gwener 16eg Medi 20222

Mae rhwydweithio yn rhywbeth rydym ni gyd yn gwybod y dylem fod yn ei wneud ond mae'r rhan fwyaf ohonom yn ofni, yn enwedig mewn byd digidol. Ond nid oes rhaid iddo fod yn anodd nac yn lletchwith. Rydyn ni eisiau eich helpu chi i ddarganfod sut i rwydweithio'n effeithiol trwy ei wneud yn hwyl, â ffocws ac yr hyn y dylai fod - offeryn i'ch helpu i ddatblygu'ch hun, eich gyrfa a'ch sefydliad.

Yn y drafodaeth amser cinio ar 16eg Medi, byddwn yn croesawu Sam Wheeler, Cyd-Berchennog a Phennaeth Gweithrediadau Big Lemon a fydd yn trafod y newidiadau yn eu gyrfa a sut wnaeth hi lwyddo hwn drwy bwer rhwydweithio effeithiol.

Cyfuniad prin mewn technoleg - strategydd ninja, entrepreneur, eiriolwr cyd-gynhyrchu a chyfarwyddwr sy'n cysegru ei hamser hamdden i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent technoleg a chymunedau ehangach. Mae hi'n cyfuno craffter masnachol ag egni heintus, ysbrydoledig. 

Beth sy'n codi Sam o'r gwely yn y bore? Beth sy'n ei chymell hi? Creu newid cadarnhaol yn y byd trwy atebion digidol arloesol sydd â llais y defnyddiwr wrth eu gwraidd. Yn frwdfrydig am yr hyn y gall technoleg ei wneud i bobl, y blaned a chymunedau, mae gan Sam hanes hir o feithrin partneriaethau, rhwydweithiau a thimau sy’n perfformio’n dda i sicrhau canlyniadau cadarnhaol, yn fasnachol ac yn wirfoddol. Mae hi wedi cyflawni llawer o hyn wrth jyglo mamolaeth unigol, sy’n dyst i’w hymroddiad i’r sector a’i chred ddiwyro ym mhotensial technoleg i greu byd gwell. Mae hi'n bwerdy aruthrol sy'n dod â heulwen a phositifrwydd. 

Sam Wheeler

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i fenywod o unrhyw gefndir proffesiynol, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb brwd mewn technoleg ac sy'n dymuno dysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill yn y sector technoleg.

Ein nod yw dod â menywod o'r un anian ynghyd i adeiladu rhwydweithiau cryf a chefnogol.