Technocamps: Eich hoff atgofion

adminBlog, Newyddion

Wrth i brosiect Technocamps a ariennir gan Ewrop ddod i ben, gofynnon ni i staff Technocamps am eu hoff atgofion o'r prosiect allgymorth STEM sy'n gweithredu ledled Cymru. Dyma beth ddywedon nhw...

Ar ôl Ysgol Haf Yellowsands, aethon ni i Ysgol Bae Baglan i ymweld â’r disgyblion a sgwrsio â nhw nawr. Cyrhaeddon ni'n gynnar a chlywed bod y disgyblion wedi dianc o’u gwersi i’n gweld a dal i fyny gyda’n swyddogion addysgu! – Jo Ralph, Swyddog Cyswllt Ysgolion

Ar weithdy yn Ysgol Gyfun Aberaeron, arbrofon ni gyda defnyddio Dreamweaver ar gyfer gweithdy. Roedd hon yn gromlin ddysgu fawr a datblygon ni'r gweithdy trwy brofi a methu. Mae bellach yn un o’n gweithdai mwyaf poblogaidd ac yn cael effaith llawer mwy ar ddisgyblion. – Toby Benson, Swyddog Addysgu

Ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd Pokemon Go yn boblogaidd iawn, byddai cwpl o swyddogion addysggu eraill a fi yn mynd i ysgolion yn gynnar i ddal Pokémons yn yr ardal. Ysbrydolodd hyn ni i ddatblygu rhaglen Python a ddefnyddiodd y data o’r ap i gymharu Pokémons a dysgu’r disgyblion pa rai oedd yn werth eu dal! - Randell Gaya, Cymrawd Addysgu

Fy ngweithdy cyntaf oedd Incredible Innovations, lle gofynnir i ddisgyblion gymharu manteision ac anfanteision llyfrau corfforol ac e-lyfrau. Roeddwn i’n nerfus am gyflwyno gweithdy am y tro cyntaf ond roedd ymgysylltiad y disgyblion yn anhygoel ac fe wnaethon nhw dynnu fy nghoes i am fwynhau arogl llyfrau corfforol! - Olga Petrovska, Cymrawd Addysgu

Sesiwn VR clwb codio Rhydaman oedd fy mhrofiad cyntaf erioed o VR. Roeddwn i'n ofnus iawn pa mor realistig oedd y naid dros ychydig o ddŵr ond roedd y disgyblion wir yn ymgysylltu. – Rama Vaidhiyanathan, Cymrawd Addysgu

Yn y gweithdy Heliwr Glöynnod Byw, mae disgyblion yn dod yn greadigol iawn ac yn meddwl am straeon unigryw i'w hadrodd yn ôl. Wrth iddynt ddisgrifio eu straeon, mae'n dod â'u hyder allan ac maent yn dod yn fwy ac yn fwy ymgysylltiol wrth i'r gweithdy fynd ymlaen. – Alex Southern, Swyddog Addysgu

Yn fuan ar ôl y cyhoeddiad cloi COVID-19 cyntaf, penderfynon ni gynnal digwyddiad rhithwir Haf STEM, a oedd yn gofyn am lawer o waith caled mewn cyfnod byr o amser. Roedd cymaint o amrywiaeth yn y gweithgareddau a chymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan, roedd yn bendant yn werth chweil! - Tom Blanchard, Cymrawd Addysgu

Fy amser cyntaf yn addysgu mewn gweithdy cynradd, doeddwn i ddim yn teimlo'n dda ond fe wnes i barhau. Ar ddiwedd y sesiwn, daeth disgybl draw a dweud ‘Rwy’n dy garu di,’ a wnaeth hyn fy niwrnod. – Alicia Peterson, Swyddog Addysgu

Yn ystod gweithgaredd pos Castell Rhesymeg yn ystod ein Hacademi STEM, un dasg oedd cyfieithu Cymraeg hynafol i Gymraeg modern, yna i'r Saesneg gan ddefnyddio teclyn cyfieithu Minecraft. Nid yw technoleg bob amser yn iawn ac roedd cymysgedd gyda’r gair ‘morwyn,’ a oedd yn golygu bod un frawddeg wedi dod allan fel ‘Ac felly fe enwodd ei foronen hardd.’ Rhoddodd hyn yn ddoniol iawn i’r disgyblion! – Jack Roberts, Swyddog Addysgu

Cefais y cyfle i fynd i Hong Kong gyda Theatr na nÓg a gweld ein gwaith caled yn cael ei rannu gyda phobl ifanc yn Hong Kong ac roedd yr effaith a gafodd ar y disgyblion yno yn anhygoel. Atgof ar wahân ond yr un mor gyffrous yw pan wnaeth rhai athrawon gacen i edrych fel fi! – Luke Clement, Rheolwr Gweithrediadau

Fy nigwyddiad personol cyntaf yn Technocamps oedd yr Academi STEM. Braf oedd gweld effaith Technocamps a’r disgyblion yn ymgysylltu cymaint ac roedd gallu cefnogi addysgu Minecraft yn bendant yn uchafbwynt! – Mike Bulpitt, Uwch Swyddog Cyllid

Roedd y lansiad roced yn ystod yr Academi STEM yn ffordd wych o ddiweddu’r diwrnod, ac roedd gweld (a rhannu!) rhyfeddod y disgyblion yn anhygoel. – Megan Chick, Arweinydd Cyfathrebu

Roedd gweld cyrhaeddiad ac ymgysylltiad Technocamps ar athrawon yng Nghynhadledd Addysg 2021, a sut maent yn elwa ac yn dysgu o gynnwys Technocamps yn eu gwneud yn frwdfrydig am ddysgu parhaus yn fy ngwneud yn falch o fod yn rhan ohono. – Chess Hutin, Cynorthwyydd Cyllid

Mae’r clybiau codio ar ôl ysgol yn croesawu ystod eang o bobl ifanc gan gynnwys disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref, o gefndiroedd gwahanol, a’r rhai nad ydynt yn mwynhau’r ysgol ond sy’n hoff iawn o ddysgu mewn amgylchedd mwy hamddenol. Mae Merlin, a ddatblygodd ar hyd y clwb, bellach yn helpu ac wedi siarad yn ein digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched am ei phrofiad. – Jo Ralph, Swyddog Cyswllt Ysgolion

Roedd gweld carfan gyntaf ein rhaglen Gradd-brentisiaeth yn graddio ar Gampws y Bae yn uchafbwynt i mi. Mae gweld bod myfyrwyr ar y cwrs weithiau heb wneud eu TGAU, ond wedi cwblhau'r Gradd-brentisiaeth yn dangos gwerth ac effaith y rhaglen. – Maria Moller, Swyddog Ymgysylltu Busnes

Yr Academi STEM oedd fy nhro cyntaf yn addysgu wyneb yn wyneb, ac roedd gweld disgyblion o gefndiroedd gwahanol yn mwynhau gyda’i gilydd yn hyfryd. Roedd rhaid gweithio fel tîm hefyd ac addasu’r sesiynau pan ddaeth y glaw i mewn, oedd yn hwyl. – Felix Moller, Swyddog Addysgu

Rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau GiST i annog merched i mewn i STEM. Roedd bod yn fodel rôl iddynt a’u gweld yn fwy ymgysylltiol a chyfforddus mewn amgylchedd gyda merched yn unig yn rhoi cymaint o foddhad. Mae’r merched yn tueddu i fynd y tu hwnt i’r hyn sy’n cael ei addysgu’n uniongyrchol a dod yn greadigol iawn gyda’r sesiynau. - Lauren Powell, Swyddog Addysgu

Mae gweld tîm Technocamps yn tyfu ac yn datblygu dros y blynyddoedd wedi bod yn wych. Mae Technocamps yn bodoli oherwydd nad oes digon o addysgwyr cyfrifiadureg hyderus a deniadol, felly rydym yn eu cefnogi trwy groesawu pobl o bob cefndir, gan roi syniadau ffres ac ysbrydoledig i ni. – Stewart Powell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol

Dylunio’r adroddiad blynyddol cyntaf a gweld effaith popeth mewn un lle ar ôl gweithio mor galed ar bob digwyddiad drwy gydol y flwyddyn. - Rasa Mombeini, Cynorthwyydd Marchnata

Hyrwyddo Merched mewn i STEM a chael fy rhoi ar restr fer Gwobr Womenspire Chwarae Teg i gydnabod fy ngwaith. – Laura Roberts, Cydlynydd PDC

Datblygu cynllun Llysgenhadon STEM sydd wedi gweld dros 500 o fyfyrwyr gyda chyfradd cyflogadwyedd 100%. – Dr Catherine Teehan, Arweinydd Academaidd Caerdydd

Yr effaith fwyaf a gefais yw gweld disgyblion nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu yn canolbwyntio’n llwyr ar dasg yn ystod gweithdy ac yn sylweddoli y gallant wneud y gwaith. – Alex Clewett, Cydlynydd Bangor

Roeddwn i wrth fy modd yn ysbrydoli merched i fwynhau codio a’u helpu i sylweddoli y gallant wneud unrhyw beth, hyd yn oed fel merch fferm! – Lois Roberts, Swyddog Addysgu

Dysgu bod disgyblion rydw i wedi gweithio gyda wedi penderfynu gwario eu harian poced ar dechnoleg – Megan Round, Swyddog Addysgu

Roedd gweithio yn yr Eisteddfod yn wych ac yn rhoi cyfle i mi ddysgu am Gymry a'r diwylliant yma. - Madhav Pandya, Cynorthwyydd Addysgu

Inspiring more girls into STEM and having a real impact on their education while developing my own skills. – Casey Hopkins, DA Programme Director

Gwneud gwahaniaeth ac ysbrydoli plentyn i barhau gyda chyfrifiadura yn yr ysgol uwchradd. – Sally Burkitt-Harrington, Swyddog Cyswllt Ysgolion Caerdydd

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich hoff atgofion Technocamps! Rhowch wybod i ni drwy comms@technocamps.com.