Technocamps: Y Stori Hyd Yma

adminNewyddion

As Technocamps’ European funding comes to an end, we take a look back on our successes from the last 20 years.

2003
Sefydlwyd Technocamps
Sefydlwyd Technocamps i fod yn uned allgymorth i'r Adran Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn mynd i'r afael â'r problemau ynghylch sut oedd cyfrifiadureg yn cael ei dysgu mewn ysgolion yng Nghymru.

2004
Gweithdai Technocamps, £25K Microsoft
Caniataodd cymorth Microsoft i ni gynnal wythnos o weithdai diwrnod o hyd yn Theatr y Grand yn Abertawe, a hynny ar gyfer plant o ysgolion uwchradd ledled y rhanbarth.

2004-2006
ITWales, £1.0M ESF

Y grant Ewropeaidd cyntaf a ganiataodd i'n gwaith allgymorth ehangu i'r prifysgolion eraill yng Nghymru. Yn 2006, nododd Adolygiad Rhyngwladol yr EPSRC o TGCh fod ein "rhaglen allgymorth lwyddiannus wedi aeddfedu i fod yn un a oedd yn mynd y tu hwnt i'r cyllid anffurfiol a oedd ar gael hyd hynny. Dywedodd Mike Rodd (Is-lywydd y Gymdeithas Gyfrifiadureg Brydeinig (BCS)) mewn araith cynhadledd yn 2007: "Gresyn nad oes yna ITWales yn Lloegr!".

2010-2015
Cynghrair Meddalwedd Cymru,
£13.4M ESF
Rhaglen ymgysylltu â busnesau a ddarparodd 2,000 o weithdai i 3,000 o gyfranogwyr, gan gynhyrchu gwerth ychwanegol gros (GVA) net o £38.3 miliwn i'w briodoli i'r rhaglen.

2011-2014
Prosiect Technocamps, £5.9M ESF, WEFO
Canolbwyntiodd y prosiect hwn ar ddatblygu a darparu gweithdai yn seiliedig ar gyfrifiadureg i ddisgyblion ysgolion uwchradd yng Ngorllewin Cymru ac yn ardal (Gydgyfeirio) y Cymoedd yng Nghymru. Nod y gweithdai hyn oedd ysbrydoli, cymell ac ennyn diddordeb myfyrwyr mewn anelu at ddysgu rhagor am gyfrifiadureg. Ymgysylltodd y prosiect pedair blynedd hwn ag 8,700 o gyfranogwyr.

2012-2018
Rhaglen Brentisiaeth Uwch, £1.4M CCAUC
Cyflwynodd y prosiect hwn y Radd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg (FdSc), sef rhaglen ddysgu yn y gwaith dwy flynedd o hyd sy'n cynrychioli dwy flynedd gyntaf ein cwrs BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol.

2013
Cyfrifiadura yn y Maes Chwarae (NESTA, 2013-2014)
Lluniwyd y prosiect hwn i fynd i'r afael â'r diffyg difrifol o ran addysg cyfrifiadureg mewn ysgolion cynradd ledled De Cymru. Cyflwynodd y prosiect weithdai – heb ddyfais electronig, roboteg, adeiladu eich cyfrifiadur eich hun – i annog diddordeb disgyblion mewn cyfrifiadureg. Roedd wedi ymgysylltu ag ychydig dros 6,000 o ddisgyblion.

2013-2015
Technoteach (Yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol (NSA))

Wrth i'r cwricwlwm ailganolbwyntio ar gyfrifiadureg, gadawodd hyn fwlch mawr yn hyder a chymhwysedd athrawon i gyflwyno cyfrifiadureg yn yr ysgol. Darparodd yr NSA gyllid i gefnogi DPP athrawon, a hynny trwy ddarparu sesiynau ad-hoc i athrawon ledled Cymru.

2014-2016
Rhaglen DPP Dysgu yn y Gymru Ddigidol (Llywodraeth Cymru)

Ariannwyd y rhaglen 24 mis hon i gefnogi'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm cyfrifiadureg ledled Cymru, a hynny trwy ddarparu o leiaf un sesiwn blasu deirawr o hyd i bob ysgol uwchradd yng Nghymru a gynhelir. Datblygwyd y gweithdai ymarferol hyn i ysbrydoli rhagor o fyfyrwyr i ddewis astudio cyfrifiadureg ar lefel TGAU, yn ogystal ag i gynorthwyo athrawon i ddarparu'r cwricwlwm cyfrifiadureg cyfredol. At ei gilydd, ymgysylltodd y prosiect hwn â 11,145 o ddisgyblion a 453 o athrawon trwy ddarparu dros 400 o weithdai. Ar gyfartaledd, cafodd y disgyblion ymgysylltu â'r prosiect am dros naw awr.

2015
Technocamps: Technoteach, Playground Computing (NSA)
Bu i'r prosiect tair blynedd hwn ddarparu cyllid i barhau â dau linyn llwyddiannus o'r rhaglen Technocamps: Cyfrifiadura yn y Maes Chwarae a Technoteach. Darparodd y prosiect weithdai ymarferol i dros 4,000 o ddisgyblion ysgolion cynradd ledled De Cymru, ynghyd â chyflwyno hyfforddiant achrededig i athrawon ar gyfer oddeutu 80 o athrawon, gan eu paratoi i gyflwyno cyfrifiadureg ym mhob Cyfnod Allweddol (CA1-CA5).

2016
Rhaglen achrededig Technoteach
Roedd y rhaglen achrededig lefel 3 hon yn darparu cymhwyster hyfforddi i athrawon ar Lefel 3 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF), ac yn arwain at Dystysgrif mewn Addysgu Cyfrifiadura. Ymgymerwyd â'r rhaglen astudio dros gyfnod o 18 diwrnod, a threuliwyd 120 awr yn ei chwblhau. Roedd y pedwar modiwl a gyflwynwyd yn cynnwys Rhaglennu ar gyfer Athrawon, Addysgu Rhaglennu, Cynrychioli Data a Roboteg. Mae'r rhaglen yn parhau i gael ei darparu o hyd, ac mae dros 110 o athrawon wedi cwblhau'r cymwysterau.

2018 – 2021
Gweithrediad yr ESF Technocamps, £5.3M
Limited to the convergence area of Wales, this project is aimed at secondary school pupils aged 11-16. It aims to engage with 3,800 participants, offer 140 workshop programmes and focus on STEM Enrichment. It uniquely aims to engage with participants that are female. Additionally, the programme supports competitions, International Women’s Day and provides an annual stakeholder conference.

2018
Sefydliad Codio (IoC) yng Nghymru, £1.2M CCAUC
Cymorth ar gyfer ymgysylltu digidol ehangach, gan gynnwys cyswllt busnes i hyrwyddo'r rhaglen Gradd-brentisiaeth BSc mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol a phrosiectau ymgysylltu â busnes ac uwchsgilio cymunedol eraill.

2018
Technoteach, Cyfrifiadura yn y Maes Chwarae, Technoclubs, Cyfoethogi STEM
Ochr yn ochr â'r gweithrediad a ariennid gan yr ESF, roedd LlC hefyd wedi cefnogi Technocamps er mwyn sicrhau bod ardaloedd nad ydynt yn rhai Cydgyfeirio yng Nghymru yn gallu cael cefnogaeth o ran Rhaglenni Cyfoethogi STEM, ac er mwyn darparu'r cymorth parhaus ar gyfer hyfforddiant athrawon, ysgolion cynradd a'r gymuned.

2018-2023
Rhaglen Gradd-brentisiaeth, £2.8M, CCAUC

Gradd-brentisiaeth dair blynedd sy'n seiliedig ar ddysgu yn y gwaith.