Llwyddiant Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Megan ChickDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Gan adeiladu ar Etifeddiaeth ITWales, cynhaliom ein digwyddiad Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar Ddydd Mercher 8 Mawrth 2023.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bob blwyddyn, mae miloedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd, i ysbrydoli a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bedwar ban y byd, yn cynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau llywodraethau, a digwyddiadau rhwydweithio.

Er gwaethaf yr eira trwm, aeth ein cinio gala Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ei flaen, gan groesawu dros 250 o westeion i’r dathliad. Mae'r noson wedi dod yn nodwedd reolaidd ar galendr cymdeithasol Cymru, gyda gwesteion yn teithio o bob rhan o'r wlad i fynychu.

Eleni oedd 23ain digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched gan Technocamps, ac roedd yn canolbwyntio ar fenywod mewn STEM ac 20fed benblwydd Technocamps. Roedd y noson yn arddangos y gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru i annog y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, gyda sgyrsiau gan:
– Seryddwr Dr Jen Millard
– Clare Johnson o Women in Cyber Wales
– Uwch Ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, Casey Hopkins

I ddechrau'r noswaith, trafododd Dr Jen Millard ei phrofiad fel menyw mewn seryddiaeth, “Nid oes digon o fenywod mewn STEM. Mae'r sefyllfa yn gwella... ond nid yw wedi'i ddatrys eto.

Mae Clare Johnson yn Sylfaenydd Women in Cyber Wales, ac fe wnaeth hi drafod yr heriau mae wedi eu hwynebu fel menyw mewn STEM, a sut i fod yn 'badass'.

Yna, siaradodd Cyfarwyddwr Rhaglen Prentisiaeth Gradd Peirianneg Meddalwedd ac Uwch Ddarlithydd Prifysgol Abertawe Casey Hopkins am ei llwybr anghyffredin i gyfrifiadureg a sut mae Technocamps wedi'i helpu ar hyd y ffordd.

Hoffem ddiolch i'n holl bartneriaid a siaradwyr anhygoel am lwyddiant y digwyddiad hwn ac i'n noddwr digwyddiad, Admiral Insurance, yn ogystal â'n gwahoddwr am y noson, Kev Johns MBE.