Citiau LEGO SPIKE Prime ar gyfer ysgolion yng Nghymru

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Mae CyberFirst wedi benthyca citiau roboteg i Technocamps i ennyn diddordeb pobl ifanc yng Nghymru mewn STEM.

Mae CyberFirst wedi rhoi rhai pecynnau addysg LEGO SPIKE Prime i ni alluogi mwy o ysgolion i gymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Roboteg eleni. Gyda mwy o gitiau ar gael ar draws ein hybiau rhanbarthol, byddwn yn gweithio gydag ysgolion ledled y wlad i ennyn diddordeb plant mewn gweithgareddau STEM hwyliog a chyffrous.

Mae CyberFirst yn brosiect gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol sydd â’r nod o hysbysu pobl ifanc o bob cefndir am y gyrfaoedd sydd ar gael iddynt yn y diwydiant seiberddiogelwch a sut y gallant gyflawni’r gyrfaoedd hyn, yn ogystal â darparu gweithdai, cystadlaethau a bwrsarïau i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n ystyried gyrfaoedd seiber.

Cynhelir ein Cystadleuaeth Roboteg flynyddol ym mis Gorffennaf, gyda'r thema Teclynnau Taclus. Gofynnir i gyfranogwyr ddylunio a chreu robotiaid a all ddidoli ailgylchu a sbwriel, a bydd defnyddio citiau SPIKE Prime LEGO Education yn galluogi mwy o ddisgyblion ac ysgolion i gymryd rhan, ennill profiad a dysgu sgiliau y mae mawr eu hangen.