Brwydro 'Botiaid yn ein Cystadleuaeth Flynyddol

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Aeth 23 o ysgolion yn erbyn ei gilydd yn rowndiau terfynol ein Cystadleuaeth Roboteg RAF 2023 yng Ngogledd a De Cymru!

Thema'r gystadleuaeth eleni oedd Teclynnau Taclus, a heriwyd disgyblion o ledled Cymru i ddylunio a chreu robot a all taclo newid yn yr hinsawdd. Yn eu timoedd, gofynnwyd i ddysgwyr ystyried a all eu robotiaid trefnu ailgylchu, cyfathrebu a bod yn unigryw mewn rhyw ffordd.

Gofynnwyd y cyfranogwyr i weithio fel grwpiau ar eu prototeip gan ddefnyddio unrhyw galedwedd neu gitiau oedd ar gael iddynt, cyn dylunio poster a fideo ar gyfer eu prototeipiau i’w defnyddio fel rhan o’u cyflwyniad i’r beirniaid. Creodd y grwpiau fyrddau arddangos ar gyfer eu prototeipiau, cyn cyflwyno cynigion i banel o feirniaid arbenigol o Technocamps a’r Llu Awyr Brenhinol, ac ateb unrhyw gwestiynau dilynol. Yna, cafwyd her fyw, anweledig lle rhoddwyd amser i gyfranogwyr addasu eu creadigaethau i gwblhau tasg newydd. Roedd cyfle hefyd i wneud heriau adeiladu tîm a chreadigol gydag Awyrlu Brenhinol trwy gydol y dydd, megis rasys awyrennau papur.

Meddai'r beirniaid, "Roedd safon eleni yn uchel iawn, yn gwneud ein swyddi ni fel beirniaid yn anodd dros ben. Roedd syniadau a all wneud gwahaniaeth go iawn i faterion newid hinsawdd, roeddwn ni'n sicr mewn cwmni arweinwyr y dyfodol heddiw!

Meddai Athro Jess Griffiths, "Roedd y gystadleuaeth yn brofiad ffantastig i’n disgyblion, fe gawson nhw gymaint allan ohoni. Roedd y sgiliau datrys problemau y bu’n rhaid iddynt eu defnyddio drwy gydol y dydd yn amhrisiadwy a chafodd ein disgyblion gymaint o lawenydd ar ôl iddynt gael trafferth yn yr heriau byw ac yna cwblhau’r her o’r diwedd. Ni allwn ni aros i ddod i gystadlu eto y flwyddyn nesaf!”

Meddai disgybl Tiana, "Dysgais i lawer yn y gystadleuaeth!”

Meddai disgybl Evie, "Roedd y gystadleuaeth yn heriol ond llwyddon ni yn y diwedd ac fe wnes i ei fwynhau'n llwyr.”

Diolch i bawb a gymerodd ran a llongyfarchiadau i'r timoedd buddugol! Bydd manylion y gystadleuaeth nesaf yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir...

Enillwyr De Cymru
Enillwyr cynradd: Ysgol Gynradd Llandogo
Enillwyr uwchradd: Ysgol Gyfun Gowerton
Enillwyr yr Her Fyw: Archbisop McGrath
Ail le yr Her Fyw: Penyrheol Recycle Bots Mark 5
Ysgol gynradd ail: Llanrhidian Cynradd
Ysgol uchwradd ail: Ysgol St Michael

Enillwyr Gogledd Cymru
Enillwyr: Green Machine, Ysgol Amlwch
Enillwyr cynradd Teclynnau Taclus: Codwyr Cerrig
Enillwyr uwchradd Teclynnau Taclus: KOAT, Ysgol Richard Gwyn
Enillwyr Cynradd yr Her Fyw: Gwersyllt Robotics, Ysgol Gwersyllt
Enillwyr Uwchradd yr Her Fyw: Magic Bin, Ysgol Richard Gwyn