Seminar WiST | Seiberddiogelwch: Personol a Phroffesiynol

adminDigwyddiad, Newyddion a Digwyddiadau

Rhad ac am ddim | 5.30-7.30pm Dydd Llun 11eg Medi | Campws Casnewydd PDC

Yn y digwyddiad anffurfiol hwn, bydd arbenigwyr seiber, Rachel Medhust a Bethan Jenkins o Brifysgol De Cymru, yn trafod pwysigrwydd deall seiberddiogelwch ac arferion gorau mewn byd digidol sy’n newid yn barhaus. Byddwch yn cael cyfle i glywed gan ein siaradwr, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhwydweithio gyda phobl o'r un anian mewn fforwm hamddenol.

Bydd hefyd cynrychiolwyr o NDEC a Cyber First Cymru, yn rhoi cyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau pellach am seiberddiogelwch!

Nod ein rhwydwaith WiST yw sefydlu cysylltiadau rhwng menywod sy’n gweithio o fewn y sector (technoleg yn arbennig) gyda digwyddiadau rheolaidd i ddysgu o brofiad ei gilydd yn y gweithle ac i gefnogi ac ysbrydoli’r rhai sy'n gynnar yn eu gyrfaoedd. Rydym yn annog aelodau i gymryd rhan yn y prosiect ac yn cynnig cyfleoedd i unigolion, cwmnïau, a sefydliadau eraill ymgysylltu â phobl ifanc trwy ddatblygu rhwydwaith model rôl cryf i gefnogi'r gwaith rydym yn ei wneud gydag ysgolion.