Hwb yn Cyflwyno – Gweminar Technocamps – Dechrau Ar Gyflwyno CiG gyda micro:bits! Tachwedd 7fed 4yp

Luke ClementNewyddion

microbits

Ar Dachwedd 7fed am 4yp, byddwn yn darparu gweminar Hwb yn Cyflwyno ar gyfer ymarferwyr yng Nghymru. Ymunwch â ni am sesiwn ragarweiniol 45 munud ar gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru gan ddefnyddio micro:bits! Dylai’r sesiwn hon roi cyflwyniad i chi i raglennu gan ddefnyddio’r micro:bit ac archwilio sut y gallech gymhwyso’r defnydd ohono ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad o fewn Cwricwlwm i Gymru.

Nid oes angen micro:bit corfforol ar gyfer y sesiwn ond fe'i hanogir os oes gennych fynediad i un. Bydd dolen i'r cyfarfod Teams ar gyfer y sesiwn yn cael ei ddarparu wrth gofrestru a'i e-bostio yn nes at y dyddiad.