Ymunwch â ni yr haf hwn ar gyfer ein gweithdai Technocamps Uwch AM DDIM wedi'u teilwra ar gyfer 16-19 oed! O feistroli Canva i raglennu robot LEGO, mae ein gweithdai yn llawn dop o gyfleoedd cyffrous i ehangu eich sgiliau digidol! P’un a oes gennych rywfaint o wybodaeth am godio neu’n mentro i’r byd digidol am y tro cyntaf, mae rhywbeth at ddant pawb yn Technocamps Uwch.
Dyddiau Mawrth a Iau
Yn Cychwyn Dydd Mawrth 30ain Gorffennaf
10yb - 12:30yp
Cofrestrwch trwy lenwi'r ffurflen hon.
Gweithdai:
- Canva + Adeiladu Gwefan
Darganfyddwch theori lliw a hanfodion dylunio, a chreu delweddau sy'n arddangos eich arddull unigryw. Dewch i ni ddod â'ch syniadau dylunio yn fyw yn y daith gyffrous hon o liwiau, creadigrwydd a hud Canva! Crewch eich gwefan eich hun heb unrhyw godio ac archwiliwch bŵer templedi y gellir eu haddasu ymlaen llaw, sy'n eich galluogi i greu gwefannau deniadol yn weledol sy'n adlewyrchu eich arddull unigryw.
- Modelu 3D am Gelf a Diwydiant
Mae Modelu 3D ym mhobman! Mewn ffilmiau, ffatrïoedd, a gemau fideo. Yn y sesiwn hon byddwn yn edrych ar hanfodion siapiau 3D, yn dysgu modelu, trin ac animeiddio mewn Blender, a hyd yn oed edrych ar OpenSCAD ar gyfer Argraffu 3D a diwydiant.
- Cyflwyniad i Dysgu Peirianyddol
Dysgwch am yr algorithmau sy'n rhoi caniatâd i beiriannau ddysgu. O wahaniaethu rhwng cathod a chwn, i ysgrifennu gerddi gwreiddiol (bron a bod); mae dysgu peirianyddol yn gwneud y cyfan. Sut mae ChatGPT yn ymddangos mor ddynol? Sut gall cyfrifiadur guro chwaraewyr gemau gorau dynoliaeth? Dysgwch am ddysgu atgyfnerthol, y broses o hyfforddi cyfrifiaduron i ddysgu trwy efelychu profiadau!
- Roboteg gyda Python
Bydd y sesiwn ymarferol hon yn eich cyflwyno i gysyniadau rhaglennu gan ddefnyddio robotiaid LEGO! Dysgwch a defnyddiwch yr iaith raglennu python i raglennu symudiadau, rhyngweithiadau a synwyryddion sylfaenol i lywio drysfa!
Mae’r gweithdai hyn am ddim diolch i gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.