Cynhadledd Addysg 2024: Plymio i Ddigidol!

Paige JenningsDigwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Cynhaliwyd y Gynhadledd Addysg eleni yn Stadiwm Abertawe.com, gan ddod â dros 50 o addysgwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd ynghyd. Cynigiodd y digwyddiad amrywiaeth o gyfleoedd i addysgwyr gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol a chael mewnwelediad gwerthfawr i wella eu dulliau addysgu yn unol â Chwricwlwm i Gymru.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad ysbrydoledig ar gyfer addysgwyr ysgolion uwchradd gan Rachel Roberts o Goleg Tregŵyr, a rannodd ei phrofiad o dyfu cyfrifiadureg trwy gydweithio, datblygu sgiliau digidol, ac ymwneud â Technocamps. Dilynwyd hyn gan sesiynau ymarferol a oedd yn canolbwyntio ar drosglwyddo o Scratch i Python gan ddefnyddio Pytch, arfogi addysgwyr â sgiliau codio hanfodol, a darganfod ffyrdd o integreiddio micro:bits i wahanol bynciau i wneud dysgu yn fwy deinamig a deniadol.


"Cyfle gwych i mi integreiddio Python i mewn i CA3 isaf gan ddefnyddio Scratch fel pont!”

Ar gyfer addysgwyr ysgolion cynradd, cynigiodd y diwrnod brofiad bywiog a rhyngweithiol trwy weithdai seiliedig ar symud a oedd yn ymgorffori dawns yn greadigol gyda gwersi rhaglennu data gan ddefnyddio micro:bits, gan ddarparu ffordd hwyliog a deniadol i gyflwyno meddwl cyfrifiadol a sgiliau datrys problemau. Yn ogystal, archwiliodd addysgwyr sut y gallai gweithgareddau heb eu plwg gefnogi camau cynnydd y cwricwlwm newydd, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau digidol allweddol heb fod angen cyfrifiaduron.

“Syniadau defnyddiol iawn i fynd yn ôl i’r ysgol a’u rhannu gydag aelodau eraill o staff. Cyfle i ddefnyddio offer a phrofi pethau roedden ni wedi eu dysgu.”

Ymunodd timau o CyberFirst, CAS, Hwb, EESW STEM Cymru, Sefydliad Codio Cymru, EHP, Theatr Na Nog, a phartneriaid eraill â ni hefyd, a fu’n arddangos eu mentrau diweddaraf a’r cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion. Bu’r digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac edrychwn ymlaen at groesawu addysgwyr yn ôl y flwyddyn nesaf i barhau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr digidol.