Rydym wrth ein bodd i rannu ein fideo yn arddangos cydweithrediad Technocamps x Theatr Na Nog eleni! Gan ddefnyddio micro:bits, archwiliodd y cyfranogwyr bŵer data hyfforddi, gan ei glymu i stori bwerus The Fight.
Wedi’i gosod yn y 1930au, mae The Fight yn taflu goleuni ar fywyd y paffiwr Cuthbert Taylor a aned ym Merthyr Tudful, y mae ei daith yn adlewyrchu gwytnwch a phenderfyniad. Er gwaethaf ei dalent aruthrol, cafodd Cuthbert ei wahardd yn anghyfiawn o geisio am y teitl Prydeinig oherwydd lliw ei groen - atgof o'r heriau a wynebwyd yn y frwydr dros gydraddoldeb.
“Gweithdy Ardderchog, llawn hwyl, addysgiadol a rhyngweithiol. Pwysig iawn siarad am hiliaeth.”
Mae ein gweithdy yn dod ag ysbryd arloesi ac adrodd straeon ynghyd, gan ddysgu sgiliau STEM gwerthfawr wrth anrhydeddu hanes y stori anhygoel hon.
“Gweithgaredd hwyliog iawn i’w wneud yn yr ysgol a helpodd fi i’w ddeall (rhaglennu micro:bits) yn well , dewch eto os gwelwch yn dda.”
Gwyliwch nawr i weld sut gysyllton ni technoleg a hanes yn y cydweithrediad unigryw hwn!