Er mwyn parhau i gefnogi ymgyrch micro:bit - Cewri Codio y BBC a micro:bit Foundation, mae Technocamps unwaith eto yn cynnal digwyddiadau dysgu proffesiynol i ymarferwyr yng Nghymru yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2025. Mae’r sesiwn yn fwyaf addas ar gyfer ymarferwyr sy’n addysgu i oedrannau cynradd uchaf ac uwchradd isaf.
Bydd y digwyddiadau hyfforddi yn rhedeg fel a ganlyn:
De Orllewin Cymru
Pencadlys Technocamps – Adeilad Margam – Prifysgol Abertawe
Dydd Gwener 14eg Chwefror
10:00 yb – 15:00 yp
Cofrestrwch: https://tc1.me/microbitSwanseaPL
Gogledd Cymru
Canolfan Fusnes Conwy
Tuesday 18th February
10:00 yb – 15:00 yp
Cofrestrwch: https://tc1.me/microbitNorthWalesPL
De Ddwyrain Cymru
Adeilad Abacws – Prifysgol Caerdydd
Dydd Mercher 5ed Mawrth
10:00 yb – 15:00 yp
Cofrestrwch: https://tc1.me/microbitCardiffPL
Rydym yn gweithio gyda Techniquest sy’n rheoli’r contract PL ar gyfer Cymru ar ran STEM Learning. Gall 15 ymarferwyr o ysgolion gwladol wneud cais am grant athro o £130 i dalu costau cyflenwi/cysylltiedig ar gyfer mynychu’r hyfforddiant hwn, gan ein bod yn disgwyl llawer mwy o fynychwyr, bydd y dyfarniad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.
Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon, bydd athrawon yn archwilio’r offeryn dysgu peirianyddol newydd sbon gan alluogi dysgwyr i raglennu’r micro:bit gan ddefnyddio model y gallant ei hyfforddi eu hunain. Bydd yr offeryn hwn yn cael ei arddangos gyda gweithgareddau sy’n cwmpasu detholiad o’r meysydd Dysgu a Phrofiad sydd wedi’u cynnwys yn y Cwricwlwm i Gymru. Yn dilyn hyn, bydd ymarferwyr yn cael eu harwain trwy nodwedd logio data micro:bit a sut y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd i gwmpasu’r agweddau trin data a geir yn y Cwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Gofynnwn i ymarferwyr ddod â’u dyfeisiau micro:bit a gliniaduron eu hunain i’w rhaglennu lle bo modd. Bu problemau gyda Chromebooks yn cysylltu â rhwydweithiau wi-fi y tu allan i'r ysgol yn y gorffennol.
Sylwer: Bydd angen y micro:bits V2 a lansiwyd gyntaf yn 2020 ar gyfer y gweithgareddau a gwmpesir. Mae'r rhain yn hawdd eu hadnabod gan yr uwchseinydd canolog ar gefn y ddyfais.