Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch gwaith.
Yma yn Inspire Training mae ein ffocws ar gefnogi pobl ifanc 16-18 oed trwy eu paratoi ar gyfer byd gwaith trwy raglenni hyfforddi wedi'u teilwra a phrofiadau ymarferol. Ein cenhadaeth yw arfogi dysgwyr â sgiliau sy'n gwella cyflogadwyedd a hyder.
Sut wnaethoch ddechrau cyd-weithio gyda Technocamps?
Dechreuon ni weithio gyda Technocamps pan wnaethon ni gydnabod yr angen cynyddol am sgiliau digidol a chodio ymhlith dysgwyr ifanc. Roedd eu gweithdai arloesol a’u hadnoddau hygyrch yn cyd-fynd yn berffaith â nodau Inspire Training i integreiddio technoleg yn ein rhaglenni hyfforddi.
Pa ran o'r gwaith gyda Technocamps sydd wedi bod fwyaf buddiol i chi, a pham?
Y rhan fwyaf buddiol o weithio gyda Technocamps fu pa mor ryngweithiol oedd eu sesiynau. Mae'r sesiynau hyn nid yn unig yn ennyn diddordeb dysgwyr ond hefyd yn rhoi medrau datrys problemau diriaethol a meddwl beirniadol iddynt. Mae'r adnoddau a'r gweithgareddau y maent yn eu cynnig yn gwneud cysyniadau technegol yn hawdd mynd atynt ac yn hwyl, sydd wedi bod yn allweddol i gadw ein myfyrwyr yn llawn cymhelliant ac yn gyffrous am STEM.
Sut ydych chi'n meddwl bod y sgiliau a'r wybodaeth a ddarperir gan Technocamps yn cael eu defnyddio yn eich gwaith o ddydd i ddydd?
Mae'r sgiliau a'r wybodaeth a enillir trwy Technocamps yn uniongyrchol berthnasol i weithleoedd modern, yn enwedig mewn diwydiannau lle mae technoleg a systemau digidol yn ganolog. I’n dysgwyr, gall deall hanfodion codio a meddwl cyfrifiannol agor drysau i brentisiaethau a rolau mewn sectorau a yrrir gan dechnoleg.
A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?
Mae eu gweithdai yn gwneud meysydd STEM yn fwy hygyrch ac apelgar, yn enwedig i bobl ifanc nad ydynt efallai wedi ystyried gyrfaoedd mewn technoleg o’r blaen.