Drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth 2025, buom yn falch o gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol ledled Cymru i gefnogi ymgyrch micro:bit y BBC a micro:bit Foundation – Cewri Codio.
Roedd y sesiynau hyfforddi ymarferol wedi'u teilwra ar gyfer ymarferwyr cynradd uwch ac uwchradd is, gan roi'r offer a'r hyder iddynt ddod â chyfrifiadura o'r radd flaenaf i'w hystafelloedd dosbarth.
It was great to be able to test the different codes during the hands-on session. The course leaders were more than happy to help and give advice throughout the day.
Yn ystod y sesiynau, bu ymarferwyr yn archwilio’r offeryn dysgu peirianyddol newydd sbon a ddatblygwyd ar gyfer y micro:bit sy’n galluogi dysgwyr i hyfforddi modelau a rhaglennu eu micro:bitau â chymwysiadau byd go iawn, sy’n cyd-fynd yn agos â meysydd Dysgu a Phrofiad yng Nghwricwlwm Cymru. Buont hefyd yn archwilio galluoedd cofnodi data micro:bit, gan ddarganfod sut i’w ddefnyddio i gefnogi trin data yn y Cwricwlwm a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Good presenters with well thought out ideas and plenty of resources!
Mae ein digwyddiadau micro:bit yn hynod boblogaidd i ymarferwyr ac yn eu cyflwyno i syniadau a chysyniadau newydd i'w helpu i ffynnu yn yr ystafell ddosbarth.