Dywedwch ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch gwaith.
Fy enw i yw Abby. Rydw i wedi graddio o Brifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r Tîm Allymestyn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy rôl yn cynnwys cyflwyno gweithdai mewn ysgolion, datblygu adnoddau newydd, a helpu pobl i gymryd rhan, a chael eu cyffroi am fyd rhyfeddol Cyfrifiadureg!
Sut wnaethoch ddechrau cyd-weithio gyda Technocamps?
Dechreuais weithio gyda Technocamps ar ôl gorffen yn y brifysgol. Rydw i wedi bod yn fy rôl ers ychydig o dan flwyddyn a hanner nawr, mae amser yn hedfan pan i chi'n cael hwyl!
Pa ran o'r gwaith gyda Technocamps sydd wedi bod fwyaf buddiol i chi, a pham?
Pan oeddwn i yn yr ysgol, mynychais Ddiwrnod Blasu Prifysgol Abertawe a gynhaliwyd gan Technocamps, a chafodd effaith enfawr arnaf. Rwy'n credu yr oeddwn i ym Mlwyddyn 8 ar y pryd, ac agorodd y diwrnod hwnnw fy llygaid i gyfrifiadureg. Yn y pen draw, dewisais sefyll TGAU Cyfrifiadureg, a dyna oedd y drobwynt wnaeth arwain at lle ydw i nawr! Gallaf ddweud yn hyderus mai Technocamps yw'r rheswm pam y dechreuais ymddiddori mewn cyfrifiadureg ac es i'r brifysgol yn y lle cyntaf.
Sut ydych chi'n meddwl bod y sgiliau a'r wybodaeth a ddarperir gan Technocamps yn cael eu defnyddio yn eich gwaith o ddydd i ddydd?
Rwy'n defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth a gefais trwy Technocamps bob dydd wrth gyflwyno gweithdai cyfrifiadureg i ystod eang o gynulleidfaoedd. Heb Technocamps, ni fyddwn wedi cael y ddealltwriaeth na'r hyder i ymgysylltu â'r pwnc neu werthfawrogi pa mor bwysig ydyw mewn gwirionedd.
Allwch chi rannu moment neu brosiect penodol sy'n sefyll allan fel rhywbeth arbennig o ystyrlon yn ystod eich amser gyda Technocamps?
Fy hoff ran o'r swydd yw cyflwyno gweithdai. Mae gan bob dosbarth y foment honno pan fydd popeth yn clicio a myfyrwyr yn dechrau gweld eu gwaith yn dod at ei gilydd. Y foment honno yw'r fwyaf gwerth chweil bob amser, pan fydd mynychwyr y gweithdy yn dechrau gweld byd cyfrifiadureg mewn gwirionedd. Mae'n fraint rhannu fy ngwybodaeth, ac mae'r brwdfrydedd yn y sesiynau hynny bob amser yn hynod ystyrlon.
Sut mae eich ymwneud â Technocamps wedi dylanwadu ar eich llwybr gyrfa, cyfleoedd, neu uchelgeisiau yn y dyfodol?
Byddai llwybr fy ngyrfa wedi bod yn hollol wahanol heb Technocamps. Roeddwn i'n arfer meddwl nad oedd prifysgol "ar gyfer pobl fel fi" ac nad oeddwn i'n perthyn i dechnoleg. Dangosodd diwrnod blasu Technocamps a fynychais yn yr ysgol i mi y gallwn fynd i'r brifysgol ac astudio cyfrifiadureg. Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw heb Technocamps!
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn cyfrifiadureg neu faes cysylltiedig?
Fy nghyngor i yw peidio byth â rhoi'r gorau i ddysgu. Mae yna bob amser fwy i'w archwilio neu i'w ymarfer a dyna'r rhan orau o gyfrifiadureg. Pob lwc!
