Mae hon yn addas ar gyfer CA3 a CA4. Mae'r pecyn gweithgaredd yn rhannu'r agweddau ar Greenfoot yn bedwar maes allweddol: Sefydlu'r Byd, Symudiad, Ymarferoldeb a'r Rhifydd.
Bydd angen:
- Cyfrifiadur
- Mynediad i Greenfoot
Cyflwyniad cyflym i Greenfoot.
Mae'r fideo hon yn cwmpasu'r hyn y bydd ei angen arnoch i sefydlu'ch byd ac ychwanegu ychydig o actorion i'r byd.
Dilynwch y fideo i ddysgu sut i gael eich actorion i symud. Dangosir i chi ddwy ffordd o symud. Symud ar hap a symudiad sy'n cael ei reoli gan ddefnyddwyr trwy'r bysellfwrdd.
Mae'r bedwaredd fideo hon yn ymdrin â thasgau ymarferoldeb. Mae'r rhain yn cynnwys sut i wneud i actor arall ddiflannu pan fydd yn gwrthdaro ag actor arall. Mae hyn yn caniatáu i ni wneud pethau i gasglu/bwyta. Rydym hefyd yn ymdrin â sut i chwarae sain pan fydd actor yn gwrthdaro neu'n cyffwrdd ag actor arall.
Yn y fideo hwn, ymdrinnir â'r dasg o ychwanegu cownter. Bydd y fideo yn dangos i chi sut i ychwanegu cownter i'ch byd Greenfoot, ynghyd ag egluro sut i wneud i'r cownter gyfri pan fydd rhywbeth yn digwydd.
Mae'r fideo hon yn ymdrin â dadfygio. Os ydych chi'n mynd yn sownd neu'n cael trafferth ar unrhyw adeg, edrychwch ar y fideo hon i wirio a yw'n rhan o'r gwallau cyffredin a eglurir yma.