Mae'r pecyn hwn yn eich cyflwyno i rai egwyddorion rhaglennu sylfaenol trwy ddefnyddio'r golygyddion bloc Scratch, MakeCode ar gyfer Micro:bit a Lego Mindstorms!
Mae'n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â thasgau a heriau o amgylch yr egwyddorion allweddol canlynol:
- Ysgrifennu algorithmau a rhaglenni cyfrifiadurol
- Defnyddio detholiadau o fewn rhaglenni cyfrifiadurol
- Creu a defnyddio newidynnau
Mae'r fideo isod yn dangos sut y gellir defnyddio newidynnau mewn rhaglenni cyfrifiadurol.
Bydd yn eich dysgu sut i greu amserydd i'w ddefnyddio yn ystod eich ymarferion cartref yn Scratch.
Cymerwch amser i ddarllen drwodd a rhoi cynnig ar y gweithgareddau yn y llyfr gwaith cyn gwylio'r fideo hwn.