Prifysgolion yng Nghymru’n cael £1.2miliwn i gracio’r côd

adminNewyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams yn cyhoeddi heddiw [dydd Mawrth, 1 Mai] fod dwy brifysgol yng Nghymru am gael £1.2 miliwn rhyngddynt i’w cefnogi i gymryd rhan yn Sefydliad Codio’r DU gyfan. Byddant yn helpu i fagu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol.

Mae’r buddsoddiad hwn yn ychwanegol i Cracio’r Côd, ymgyrch gwerth £1.3 miliwn i gysylltu disgyblion Cymru â chodio, a gyhoeddwyd y llynedd.

Dangosodd gwaith ymchwil a wnaed yn 2016 fod y sector digidol yn cyflogi 40,000 o bobl a’i fod werth dros £8.5 biliwn o ran trosiant i economi Cymru. 

Bydd Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn elwa ar y cyllid, a ddyrannwyd gan CCAUC, a fydd yn cynnwys £200,000 i gefnogi mentrau codio mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. 

Sefydlwyd y Sefydliad Codio gan Lywodraeth y DU i fod yn ganolbwynt gwladol ar gyfer gwella darpariaeth sgiliau digidol. Mae’n cynnwys prifysgolion, busnesau ac arbenigwyr o faes y diwydiant, gan gynnwys IBM, Cisco, BT a Microsoft. 

Bydd y cyllid yn talu am gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig ar gyfer labordai Technocamps sy’n darparu profiad ymarferol o ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau a phecynnau codio i athrawon a dysgwyr. Bydd hefyd yn talu am swyddogion cydgysylltu ysgolion/busnesau, ac am sefydlu clybiau sy'n cael eu rhedeg gan yr Academi Meddalwedd Genedlaethol i ennyn diddordeb y gymuned mewn codio. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud y cyhoeddiad yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yng Nghaerdydd, sy’n cynnal clwb codio.

 Ers lansio Cracio’r Cod, mae’r canlynol ymhlith y cynnydd a wnaed:

  • Cafodd dros 200 o athrawon hyfforddiant codio, ac mae rhagor o sesiynau ar y gweill.
  • Cynhaliodd Coleg Meirion Dwyfor gystadleuaeth godio ar gyfer Cymru gyfan, mewn partneriaeth â BT Cymru a chanolfannau Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor.
  • Yn 2017/18 cynhaliodd Technocamps 150 o weithdai mewn 85 ysgol gynradd ledled Cymru ar gyfer dros 4,250 o ddisgyblion a 135 o’u hathrawon. Cynhaliwyd 40 o weithdai mewn 25 ysgol uwchradd ar gyfer dros 1,000 o ddisgyblion a’u hathrawon.

Dywedodd Kirsty Williams: “Mae côd ym mhobman ac mae’n rhan o’n bywyd bob dydd. Mae’n hanfodol cael sgiliau digidol o’r radd flaenaf ac mae’n hollbwysig bod y gallu a’r wybodaeth gan bobl ifanc i ddatblygu yn y maes hwn.

“Rwy’n falch o gyhoeddi bod £1.2 miliwn ar gael i brifysgolion Caerdydd ac Abertawe gymryd rhan yn y Sefydliad Codio. Bydd hyn yn eu galluogi i gysylltu â phrifysgolion eraill, a chyda busnesau a diwydiannau. Mae’n bwysig hefyd y bydd yr arian yn eu galluogi nhw i wneud gwaith yn y gymuned, gan adeiladu ar y camau rydym wedi’u cymryd eisoes i sicrhau bod codio’n rhan o’r broses ddysgu yn ein hysgolion.”

Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Mae hwn yn gyfle ardderchog i'r prifysgolion dan sylw fod yn rhan o gonsortiwm dylanwadol o fusnesau, cyrff proffesiynol a phrifysgolion, a datblygu safon gydnabyddedig i ddiwallu anghenion y diwydiant digidol. Rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu darparu cyllid i'r prifysgolion dan sylw er mwyn rhoi ei statws haeddiannol i'r fenter hon yng Nghymru.

"Bydd y cyllid yn datblygu gweithgarwch codio i fyfyrwyr a phobl ifanc yng Nghymru i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau o ran sgiliau. Bydd yn galluogi'r prifysgolion i redeg rhaglenni gradd newydd a diwygiedig ym meysydd Peirianneg Meddalwedd, Deallusrwydd Artiffisial a Seiberddiogelwch, a bydd cynnydd sylweddol yn y cyfleoedd i gael profiad gwaith.

"Bydd hyn yn cael effaith fawr ar y ‘gadwyn gyflenwi’ yng Nghymru o ran codyddion: bydd yr effaith yn amrywio o wella sgiliau athrawon i redeg gweithdai cyfrifiadureg ymarferol er mwyn ysbrydoli pobl ifanc, i gynhyrchu graddegion yn y gwyddorau technegol sy'n barod i weithio ar unwaith. Drwy ddefnyddio myfyrwyr fel llysgenhadon STEM, bydd gan y prifysgolion rôl yn y gwaith o newid delwedd cyfrifiadureg hefyd, ac o chwalu rhwystrau rhag cymryd rhan, gan gynnwys darparu mwy o gyfleoedd i fenywod gymryd rhan mewn cyfrifiadureg."

Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ac Arweinydd y Sefydliad Codio yng Nghymru: "Drwy redeg rhaglen Technocamps ledled Cymru, a chyflwyno cyrsiau prentisiaeth arloesol mewn peirianneg meddalwedd i weithwyr amser llawn cwmnïau ar draws y De, gyda'i gilydd mae prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn adnoddau grymus yng Nghymru o ran mynd i'r afael â'r prinder sgiliau cenedlaethol yng ngweithlu'r economi ddigidol. Mae'r rhagolygon a'r cyfleoedd newydd a fydd yn deillio o fod yn bartneriaid yn Sefydliad Codio'r DU gyfan yn gyffrous."

Dywedodd yr Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae'r Sefydliad Codio'n adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus rhwng Academi Meddalwedd Genedlaethol y Brifysgol, Llywodraeth Cymru ac arweinwyr o fyd diwydiant i fynd ar afael â'r prinder cenedlaethol o raddedigion medrus ym meysydd rhaglennu a pheirianneg meddalwedd. Mae'r pwyslais y mae'n ei roi ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth drwy ennill profiad ymarferol ar brosiectau a arweinir gan ddiwydiant yn creu graddedigion y mae galw mawr amdanynt, ac sy'n barod i gamu'n syth i mewn i yrfa fel peirianwyr meddalwedd masnachol."

Ystyr côd cyfrifiadurol yw set o reolau neu gyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn bosibl creu meddalwedd gyfrifiadurol, apiau, a gwefannau. Mae'n fodd i ddysgwyr bontio o ddefnyddio technoleg i fod yn ei hysgrifennu.